Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Athro Prifysgol Abertawe Norah Keating yn dod yn Gymrawd yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol

Mae academydd Prifysgol Abertawe, Norah Keating, ymhlith grŵp o wyddonwyr cymdeithasol amlwg sydd wedi cael eu hanrhydeddu gan Academi y Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae’r Academi wedi dyfarnu Cymrawd yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol i 51 o wyddonwyr cymdeithasol y DU gan gynnwys yr Athro Keating, Athro Heneiddio Gwledig, yng Nghanolfan Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe (CIA).

Mae'r Athro Keating yn gerontolegydd cymdeithasol a neilltuwyd ei bywyd proffesiynol i wella ansawdd bywyd oedolion hŷn. Mae ganddi enw da yn rhyngwladol am ei gwaith gyda theuluoedd, cymunedau byw a gofal.

Mae pob un wedi'i ethol yn seiliedig ar eu cyfraniadau rhagorol i ymchwil ac i gymhwyso gwyddoniaeth gymdeithasol i bolisi, addysg, cymdeithas a'r economi.

Meddai’r Athro Norah Keating:

“Anrhydedd yw ymuno â chydweithwyr sy'n gwneud ymchwil damcaniaethol, empirig a pholisi mor dda sy'n cyfrannu at yr academi.”

Dywedodd yr Athro Roger Goodman, Llywydd Academi Gwyddorau Cymdeithasol:

“Rydym yn hynod falch cael croesawu 51 Cymrawd newydd i'r Academi sydd mor fedrus yn eu meysydd. Fe'u dewiswyd yn dilyn adolygiad cadarn gan eu cyfoedion ac fe'u cydnabuwyd am ragoriaeth eu gwaith a'i gymwysiadau yn y byd academaidd, busnes a'r sector cyhoeddus.

“Yn ystod eu gyrfaoedd maent wedi rhagori ar ofynion arferol eu swyddi ac mae llawer wedi defnyddio gwyddorau cymdeithasol i sicrhau budd cyhoeddus ym myd polisi cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, ac mewn addysg uwch, datblygu rhanbarthol, y llywodraeth a'r gyfraith. Rwy’n cynnig llongyfarchiadau diffuant i’n Cymrodorion newydd ac edrychaf ymlaen at gydweithio â nhw i fwrw ymlaen ag uchelgeisiau’r Academi.”

Rhestr lawn yr Academi o Gymrodyr newydd

 

Rhannu'r stori