Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae darpar famau y bu'n rhaid canslo eu dosbarthiadau cyn-enedigol oherwydd y coronafeirws bellach yn manteisio ar gyngor ar-lein am ddim gan arbenigwr ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd Dr Alys Einion-Waller, Athro Cysylltiol Bydwreigiaeth ac Iechyd Menywod, fod ei chwrs tair wythnos gyntaf o ddosbarthiadau eisoes wedi bod yn boblogaidd iawn - cofrestrodd 12 cwpl ar gyfer y sesiwn gyntaf ond nawr mae'r ffigur hwnnw wedi codi i 33 pâr o ddarpar rieni.

Mae'r dosbarthiadau mewn geni-hypnotig Geni Canolog, yn ffordd o ddefnyddio ymlacio dwfn a hunan-hypnosis mewn esgor a genedigaeth, fel arfer yn cael eu cyflwyno yn yr Academi Iechyd a Llesiant y Brifysgol. Maent yn dysgu technegau sy'n helpu menywod a'u partneriaid i ymlacio ac ymdopi ag ymdrech gorfforol esgor a geni.

Fodd bynnag, er bod y GIG yn canolbwyntio ar wasanaethau hanfodol ac oherwydd y canllawiau pellhau cymdeithasol bu'n rhaid canslo'r dosbarthiadau cyn-geni arferol.

Meddai Dr Einion-Waller: “Mae dosbarthiadau geni-hypnotig ar-lein fel arfer yn costio cryn dipyn ond trwy gynnig y rhain ar-lein am ddim, rydyn ni’n helpu i gyfrannu at addysgu a grymuso pobl feichiog a’u partneriaid.”

Mae’n defnyddio Zoom i greu dosbarth ar-lein byw gyda chasgliad nesaf o ddosbarthiadau i’w cynnal yn hwyrach y mis yma.

“Mae addysg cyn-geni yn helpu pobl i deimlo mewn rheolaeth ac i wneud penderfyniadau gwybodus yn ystod esgor a genedigaeth. Mae geni hypnotig yn dysgu ymlacio dwfn a meddylfryd cadarnhaol, i fagu hyder a chadw'n dawel, gan leihau ofn a phryder felly dyma'r amser delfrydol i gynnig dosbarthiadau o'r fath, ” meddai.

“Dywedodd rhai o’r bobl wnaeth gymryd rhan eu bod yn profi ymdeimlad uwch o bryder yn ystod y pandemig ac yn ddiolchgar o ddysgu technegau ymarferol i reoli hynny.

“Dywedodd un arall fod hyd yn oed un sesiwn wedi ei thawelu ac wedi helpu i leddfu ei phryder.”

Mae Dr Einion-Waller wrth ei bodd gyda'r ymateb y mae wedi'i dderbyn hyd yma – o fewn oriau wedi iddi lansio ei thudalen Facebook, roedd ei grŵp cyntaf o rieni wedi cofrestru i gymryd rhan - ac mae hi nawr yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant cychwynnol hwn.

Gellir cyrchu’r cwrs yma fesul ar Facebook.

Rhannu'r stori