Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Academyddion Prifysgol Abertawe yn cael eu Hanrhydeddu gan Academi Cymru

Mae pedwar o academyddion Prifysgol Abertawe ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Maen nhw’n ymuno â 38 o Gymrodyr newydd eraill, sydd oll yn rhannu cyswllt â Chymru, ei phrifysgolion neu ei bywyd deallusol, gan gynrychioli pob arbenigedd.

Y Cymrodyr newydd o Brifysgol Abertawe yw:

  • Yr Athro Thomas Crick MBE FIET FBCS, Athro Addysg a Pholisi Digidol, Prifysgol Abertawe
  • Yr Athro Caroline Franklin FEA, Athro Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Prifysgol Abertawe
  • Yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ac Athro Economeg Iechyd, Prifysgol Abertawe
  • Yr Athro Dominic Reeve FICE FIM, FRMetS, Athro Peirianneg Arfordirol a Phennaeth Canolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadurol, Prifysgol Abertawe
  • Yr Athro David Ritchie FInstP CPhys, Athro Gwyddoniaeth a Thechnoleg Lled-ddargludyddion, Prifysgol Abertawe, ac Athro Ffiseg Arbrofol, Prifysgol Caergrawnt

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas am yr aelodau newydd: "Rwyf i wrth fy modd yn gweld ethol 43 o Gymrodyr newydd, sydd unwaith eto’n dangos y talentau sy’n gysylltiedig â Chymru, fydd yn atgyfnerthu gwaith y Gymdeithas, yn cydnabod rhagoriaeth, hyrwyddo ymchwil a defnyddio ein harbenigedd i wasanaethu’r Genedl."

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac fe’i cynhelir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau’r rheini a enwebir yn eu meysydd perthnasol.

Bellach mae gan Gymrodoriaeth y Gymdeithas 562 o aelodau. Mae eu harbenigedd cyfunol yn galluogi’r Gymdeithas i gryfhau ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru, drwy ei chyfraniadau o ran datblygu polisi, cynnal darlithoedd a seminarau cyhoeddus a’i rhaglen Astudiaethau Cymreig sy’n ehangu.

Caiff y Cymrodyr newydd eu derbyn yn ffurfiol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, a gynhelir o bell eleni oherwydd cyfyngiadau Covid-19, ar 20 Mai.

 

Rhannu'r stori