Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Technocamps yn lansio adnoddau rhith i helpu ysgolion a disgyblion

Mae prosiect Technocamps Prifysgol Abertawe wedi lansio cyfres o adnoddau ar-lein rhad ac am ddim i gefnogi disgyblion, athrawon a rhieni yn ystod yr achosion o Covid-19. 

Gydag ysgolion ar hyd a lled Cymru a'r Deyrnas Unedig ynghau hyd nes y clywir yn wahanol o ganlyniad i'r pandemig sy'n mynd rhagddo, mae tîm cyflawni Technocamps wedi creu sawl offeryn i gynnal momentwm a chymhelliant.

Dechreuodd y staff gyda ‘chlwb cod rhith’ trwy ffrwd fideo ar-lein, a helpodd i roi mynediad i blant na fyddai fel arfer yn gallu mynychu'r clybiau yn bersonol.

Y bwriad yw mynd yn fyw bob dydd Iau trwy gydol y cyfnod hwn, gyda'r tîm hefyd yn ystyried cyflwyno diwrnodau eraill.

Ymhlith yr adnoddau ar-lein eraill, sy'n rhad ac am ddim, y mae taflenni gwaith, fideos a chwisiau, ac anogir y disgyblion i weithio trwy'r pecynnau a chyflwyno eu gwaith i dîm y prosiect, sydd hefyd yn cynnal bwrdd sgorio ar-lein ar gyfer ysgolion a disgyblion, fel ei gilydd.

Anogir y disgyblion i weithio trwy'r pecynnau a chyflwyno'u gwaith i'r tîm. Byddant wedyn yn cael eu hychwanegu at fwrdd sgorio Technocamps, a bydd yna gyfle i ennill robot Sphero ar gyfer eu hysgol, yn ogystal â thaleb Amazon gwerth £50 ar gyfer y disgybl gorau.

Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps ac Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe:

“Yn ystod y cyfnod ansicr fel hwn, mae darparu gweithgareddau ar-lein ar gyfer dysgwyr ledled Cymru ac, yn wir, ledled gweddill y byd, yn fwy pwysig nag erioed. Mae tîm Technocamps wedi bod yn gweithio'n llawn-amser ers i'r ysgolion gau er mwyn sicrhau bod adnoddau diddorol, ysbrydoledig a rhyngweithiol ar gael trwy ein gwefan.”

Dywedodd Stewart Powell, Rheolwr Gweithrediadau Technocamps:

“Rwy'n hynod o falch o'r ymgysylltu cychwynnol sydd wedi bod ag athrawon a rhieni sydd eisoes yn annog eu disgyblion a'u plant i ryngweithio. Ar hyn o bryd, mae pedwar pwnc ar gael, yn cynnwys codio cydosod trwy Little Man Computer, ac archwilio seiffrau yn rhan o'n pecyn gweithgareddau Cryptograffeg.

Yn ystod yr wythnosau sydd i ddod, byddwn yn ychwanegu amrywiaeth o weithgareddau newydd y gellir eu cwblhau i ennill rhagor o bwyntiau, er mwyn galluogi i'r myfyrwyr gymryd rhan yn ein byrddau sgorio ar gyfer ysgolion a'n byrddau sgorio unigol."

 

Lawrlwythwch y pecynnau gweithgareddau yma.

Rhannu'r stori