Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Prifysgol Abertawe yn chwarae rhan allweddol ym maes ymchwil dementia

Defnyddiwyd cofnodion iechyd mwy na 80% o boblogaeth Cymru i greu cronfa ddata iechyd ar raddfa genedlaethol gyntaf y DU ar gyfer ymchwil dementia, ac mae wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Abertawe.

Defnyddiodd ymchwilwyr gofnodion GIG Cymru i greu’r adnodd newydd – a gedwir ym Manc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL) – gan alluogi meddygon a gwyddonwyr i archwilio cwestiynau sylfaenol ynghylch dementia gyda mwy o hyder, gan baratoi’r ffordd ar gyfer triniaethau newydd.

Mae rhywun yn y byd yn dangos arwyddion o ddementia bob tri eiliad, a rhagwelir y bydd cynnydd yn nifer y bobl sy’n byw â’r cyflwr. Amcangyfrifir bod 850,000 o bobl yn byw â dementia yn y DU a dyma argyfwng iechyd y cyhoedd mwyaf yr oes hon.

Oherwydd natur gymhleth dementia, mae’r galw am ddata hirdymor o safon yn uchel a gall y clefydau sy’n ei achosi ymsefydlu ddegawdau cyn i symptomau ddod i’r amlwg. Drwy eu data a’r medrusrwydd ymchwil o’r radd flaenaf yn Dementias Platform UK, mae pobl Cymru yn gwneud cyfraniad heb ei ail  at ymchwil a thriniaeth clefyd Alzheimer.

Mae ymchwilwyr wedi defnyddio Banc Data  SAIL i ddatblygu’r adnodd penodol i ddementia, a elwir y SAIL dementia e-Cohort (SDeC). Cwmpas y gronfa ddata newydd yw 1.2 miliwn o gofnodion pobl dros gyfnod o 20 mlynedd ac mae’n caniatáu i ymchwilwyr archwilio effaith a chynnydd dementia ar raddfa’r boblogaeth. Bydd ymchwilwyr yn gallu gweld pa un a yw amgylchiadau megis gallu cael gafael ar ofal cymdeithasol neu incwm y cartref yn cael effaith ar ddementia.

Mae Banc Data SAIL, y crëwyd y gronfa ddata newydd ohono, yn cynnwys cofnodion dienw gan feddygon teulu ac ysbytai o’r 3.1 miliwn o bobl sydd yng Nghymru, gan gynnwys gwybodaeth am bresgripsiynau a diagnosau. Mae cofnodion meddygon teulu yn arbennig o werthfawr ar gyfer ymchwil dementia gan fod y rhan fwyaf o bobl sy’n byw â dementia yn byw gartref neu o dan ofal eu meddyg teulu. Mae maint data Cymru yn gwneud y ddirnadaeth bosibl o’r clefyd a thriniaethau yn arbennig o bwysig.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o wledydd eraill sy’n casglu data iechyd, mae Cymru yn un o’r ychydig o wledydd yn y byd lle mae ymchwilwyr yn gallu cael mynediad at ddata gofal sylfaenol ar gyfer pawb bron. Mae hyn yn golygu bod data pobl Cymru yn eithriadol o werthfawr. 

Dywedodd Ashley Akbari, Uwch Reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe:

“I ymchwilwyr dementia ar draws y byd, mae gallu cael gafael ar ddata ar bobl Cymru ar raddfa’r boblogaeth drwy Fanc Data SAIL yn fraint ac yn gyfle enfawr. Mae graddfa eang y ffynonellau data cysylltiedig sydd ar gael yn ddigyffelyb ac mae ymchwilwyr yn gallu cael gafael ar ddata unigol ar gyfer y boblogaeth gyfan bron.

“Mae nifer y manylion cysylltiedig yr ydym yn eu cadw ar y raddfa hon yn rhywbeth prin iawn ym maes ymchwil dementia. Mae hyn yn bosibl diolch i’r dechnoleg a’r buddsoddiad mewn llywodraethu a’r ymgysylltu â rhanddeiliaid sydd gennym ni yma yng Nghymru, sy’n arwain y byd.”

Dywedodd Chris Orton, Rheolwr Prosiect Data, Dementias Platform UK:

“Gyda’i gilydd, mae’r data a’r dechnoleg yn cynnig cyfle unigryw i ni symud ymchwil dementia yn ei flaen. Mae Banc Data SAIL a Phorth Data Dementias Platform UK yn systemau sy’n arwain y byd ac y  gellir ymddiried ynddynt, ac sydd hefyd yn cynnig mynediad effeithlon a diogel at ddata. Maen nhw’n cynnig cyfle i ni ddod ag arbenigedd gan y GIG, academyddion, gwneuthurwyr polisi ac aelodau o’r cyhoedd i gynnal ymchwil – a bod yn gwbl ffyddiog y bydd data cleifion yn ddiogel.”

Erbyn hyn, mae data Cymru yn cael eu defnyddio mewn ymchwil i geisio deall mwy am ddementia. Mae hyn yn bosibl diolch i gamau breision ymlaen o ran ein gallu i storio swm enfawr o ddata iechyd yn ddiogel gan ddod ag arbenigedd ynghyd yn Dementias Platform UK a Phrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori