Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Hyfforddedigion CELTA yn ystod eu hamser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae staff nawr yn gobeithio olrhain cymaint o gyn-fyfyrwyr â phosib.

Hyfforddedigion CELTA yn ystod eu hamser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae staff nawr yn gobeithio olrhain cymaint o gyn-fyfyrwyr â phosib.

Fel rhan o ddathliadau Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe, mae'r Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg yn ceisio olrhain cyn-fyfyrwyr.

Rydym am glywed gan unrhyw un sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen hyfforddiant CELTA ac wedi dysgu sut i addysgu Saesneg fel iaith dramor yn Abertawe. 

Y gobaith yw y bydd eu hatgofion a'u profiadau'n cael eu defnyddio i greu map o'r byd a fydd yn cynnwys lluniau a sylwadau. 

Mewn llythyr agored i gyn-hyfforddwyr CELTA, meddai Peter Neville o ELTS: 

“Dros y blynyddoedd, rydym wedi hyfforddi nifer fawr o bobl i ymgymryd â CELTA, rhai ar ddechrau eu gyrfaoedd, eraill wrth newid gyrfa, ac eraill a oedd yn chwilio am ffordd i ailganolbwyntio eu hymdrechion yn hwyrach mewn bywyd. 

“Mae llawer o'r bobl rydym wedi'u hyfforddi wedi cael llwyddiant yn addysgu Saesneg, rhai yn agos at gartref, eraill mewn cyrchfannau pell ac efallai mewn amgylchiadau anarferol. Efallai fod eraill wedi defnyddio eu profiad CELTA ac addysgu fel pont i ymgymryd â gwaith arall.

“Beth yw eich stori chi? Hoffem gyhoeddi enghreifftiau bywyd go iawn o lwyddiant CELTA, er mwyn dathlu a nodi'r hyn a wnaed eisoes, ac i annog y rhai a fydd yn dod ar eich ôl chi. 

“Cysylltwch â mi os oes diddordeb gennych. Rwy'n gobeithio’n fawr glywed straeon a phrofiadau diddorol gan bobl rydym wedi cysylltu â nhw dros y blynyddoedd a'r rhai nad ydym wedi clywed gennych ers dro byd.” 

Gall unrhyw un â diddordeb gysylltu â Peter yn ELTS, 3ydd Llawr, Adeilad Margam, Prifysgol Abertawe, Abertawe SA2 8PP neu e-bostio p.l.neville@abertawe.ac.uk

Rhannu'r stori