Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Yr Is-ganghellor Paul Boyle gyda chyfarwyddwr CALIN, Steve Conlan a phennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, Keith Lloyd, yng nghynhadledd Collaborate 2020.

Mae partneriaeth unigryw rhwng Cymru ac Iwerddon, sy'n elwa o arbenigedd gwyddor bywyd ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill cyllid ychwanegol gwerth pum miliwn o Ewros.

Bydd yr arian ychwanegol yn helpu'r Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN) i barhau i ddatblygu'r sector gwyddor bywyd yn y ddwy wlad. 

Ariennir CALIN gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru ac mae'n cefnogi ymchwil a datblygu ym maes y gwyddorau bywyd yng ngorllewin Cymru a de a dwyrain Iwerddon. 

Ers ei lansio yn 2016, mae CALIN wedi cynorthwyo mwy na 100 o gwmnïau a sefydlu 36 o brosiectau cydweithredol tymor byr a chanolig. Mae'r fenter drawsffiniol yn paru prifysgolion yng Nghymru ac yn Iwerddon â busnesau bach a chanolig (BBaCh) i gyflawni datblygiadau yn y gwyddorau bywyd â'r nod o lansio cynhyrchion gwyddor bywyd newydd ar y farchnad.

O ganlyniad i gymorth CALIN, buddsoddwyd dros 5 miliwn o ewros gan fusnesau ar gyfer ymchwil a datblygu a chrëwyd 20 swydd newydd.

Cyhoeddwyd yr hwb ariannol gan gyfarwyddwyr CALIN, Shareen Doak a Steve Conlan, yng Nghynhadledd Cydweithredu 2020 Prifysgol Abertawe, lle daeth academyddion, ymarferwyr iechyd proffesiynol, cynrychiolwyr o'r diwydiant a'r gymuned ynghyd i ddathlu'r partneriaethau sy'n helpu i ddatblygu gofal iechyd y dyfodol.

Meddai'r Athro Conlan:

"O ganlyniad i'r cyllid ychwanegol hwn, a fydd yn para tan 2023, bydd partneriaid CALIN yn gallu parhau i ysgogi ymchwil a datblygu gyda BBaCh yn y gwyddorau bywyd yng Nghymru ac Iwerddon."

Ychwanegodd yr Athro Doak:

“Mae dull CALIN o arloesi nid yn unig yn sicrhau canlyniadau diriaethol i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru a Iwerddon, ond hefyd yn sefydlu partneriaethau cynaliadwy rhwng busnes a’r byd academaidd yn y ddwy wlad a fydd yn sicrhau twf parhaus yn y sector hyd y gellir rhagweld.” 

Dywedodd y Cynghorydd Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, sy’n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru:

“Rydyn ni eisoes wedi gweld pa mor llwyddiannus fu prosiect CALIN wrth ddod ag academyddion gorau o Gymru ac Iwerddon ynghyd â busnesau i helpu i ddatblygu cynhyrchion gwyddor bywyd newydd. Mae hyn yn mor bwysig, nid yn unig i'r economi, ond wrth ddatblygu cynhyrchion arloesol o'r radd flaenaf i'w lansio i'r farchnad, gan greu swyddi a chyfleoedd busnes ar ddwy ochr Môr Iwerddon. 

“Rwy’n falch iawn o weld y cyllid hwn yn cael ei ymestyn tan 2023. Mae prosiectau cydweithredol Cymru-Iwerddon yn ehangu ein dealltwriaeth mewn cymaint o feysydd hanfodol. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft ymarferol arall o'r berthynas agos a chynhyrchiol rhwng Cymru ac Iwerddon. Mae'n dangos ein cenhedloedd yn cydweithredu i gymryd camau go iawn i ymateb i faterion go iawn, gan gefnogi arloesedd a thwf a gwneud y gorau o atebion creadigol.

“Rydym yn gwerthfawrogi ein cydweithrediadau ymchwil gyda phartneriaid yn Iwerddon yn fawr ac yn edrych ymlaen at adeiladu llwyddiant pellach gyda'n gilydd."

Ydych chi'n fusnes bach a chanolig sy'n ymwneud â'r sector gwyddor bywyd yng Nghymru neu Iwerddon? Os hoffech chi fod yn rhan o'r nifer cynyddol o fusnesau sydd wedi elwa o arbenigedd rhwydwaith CALIN, byddem yn croesawu eich diddordeb. Cysylltwch â ni

Darllenwch fwy am brosiect CALIN 

Rhannu'r stori