Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Kayleigh Sweet, WEFO IMPACT Project Officer, Professor Johann Sienz, Director of IMPACT,Mark Drakeford AM, First Minister of Wales, Professor Steven Wilks, Provost of Swansea University, Ruth Bunting Associate Head of the College of Engineering.

Sefydliad ymchwil peirianneg newydd a fydd yn darparu ymchwil effaith uchel, sylfaenol a chymhwysol trwy bartneriaethau rhwng academia a diwydiant yn cael ei nodi mewn lansiad gyda Phrif Weinidog Cymru.

Mae cyfleuster ymchwil newydd ei lansio yn addo darparu amgylchedd ymchwil trawsffurfiannol effaith uchel lle gall diwydiant ac academia gydweithio ym meysydd peirianneg uwch, gweithgynhyrchu, modelu a deunyddiau.

Cafodd y Sefydliad Technolegau Deunyddiau, Prosesu a Rhifiadol Arloesol (IMPACT), Canolfan Ragoriaeth sy’n rhan o’r Coleg Peirianneg, ei lansio’n swyddogol yr wythnos hon ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Adeilad newydd Peirianneg Gogledd yw cartref y sefydliad ymchwil peirianneg modern hwn, sy’n arbenigo mewn ymchwil sylfaenol a chymhwysol.

Agorwyd yr adeilad blaengar yn swyddogol gan Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru, mewn seremoni arbennig ddydd Iau 6 Chwefror. Roedd y digwyddiad yn nodi lansio IMPACT yn swyddogol, a dadorchuddiwyd plac yn atriwm canolog yr adeilad.

Yn dilyn y seremoni, gwahoddwyd y gwesteion i ryngweithio â’r gwaith ymchwil ar ffurf arddangosiadau byw o rai o’r prosiectau ymchwil cyfredol sy’n gysylltiedig ag IMPACT, sydd i’w gweld yn y labordai cynllun agored 1,600m2.  Cafodd y rhai oedd yn bresennol gyfle i ddysgu mwy am ddatblygiadau diweddar ym maes roboteg a roboteg gydweithredol, Deallusrwydd Artiffisial, gweithgynhyrchu ychwanegion neu argraffu 3D, y Twnel Gwynt (cyfleuster twnel gwynt gwerth £1.2 miliwn, a ddefnyddir i astudio effeithiau aer yn symud heibio i wrthrychau solet), a’r car rasio yn null Formula One, a adeiladwyd i gystadlu yn Formula Student (cystadleuaeth peirianneg addysgol yn Ewrop sydd wedi ennill ei phlwyf).

Dywedodd Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru: “Trwy IMPACT mae Prifysgol Abertawe yn meithrin cymeriadau tebyg i Brunel, Tesla a Lovelace ar gyfer ein hyfory. 

“Mae’r dyfodol yn fwy disglair nid yn unig i’r myfyrwyr sy’n dod trwy’r drysau hyn, ond hefyd i Gymru, a fydd yn elwa o’u gwybodaeth a’u harloesedd.”

“Wrth i’r byd wynebu heriau lluosog, fel y newid yn yr hinsawdd – byddwn ni’n troi at y meddylwyr, y llunwyr a’r gwneuthurwyr i arloesi a’n helpu i gael hyd i atebion ar gyfer y dyfodol. Dylem ni ymfalchïo y bydd y ganolfan ragoriaeth hon, ar dir a daear Cymru, yn cyflawni mwy na’r disgwyl o ystyried ei maint ar lwyfan y byd.”

Mae adeilad Peirianneg Gogledd yn cynnwys dwy ardal benodol – wedi’u cysylltu gan yr atriwm canolog, sy’n llawn golau: adeilad o swyddfeydd ymchwil a bloc labordy. Gyda’i gilydd maen nhw’n cynnwys y canlynol:

  • 80 o swyddfeydd i unigolion
  • Canolbwynt ar gyfer dros 150 o ymchwilwyr
  • Ardal gydleoli ar gyfer 50 o gydweithwyr diwydiannol ac academaidd
  • 1,600m2 o labordai cynllun agored

Lluniwyd rhaglen ymchwil IMPACT, sy’n werth £35 miliwn, ac sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe, i ganiatáu ar gyfer blaenoriaethau ymchwil sy’n dod i’r amlwg, ac mae’n gallu addasu i anghenion y diwydiant ar sail y datblygiadau gwyddonol a thechnolegol diweddaraf. Mae pum thema graidd i’r ymchwil: 

  • Technolegau Gweithgynhyrchu’r Dyfodol
  • Mesur Priodweddau Deunyddiau’r Genhedlaeth Nesaf
  • Deunyddiau Strwythurol Lefel Uwch
  • Haenau Tenau a Chaenau
  • Peirianneg sy’n troi o gwmpas Data

Dywedodd yr Athro Johann Sienz, Cyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltu yn y Coleg, a Chyfarwyddwr IMPACT: “Mae IMPACT – sydd wedi’i wreiddio yn ecosystem arloesedd rhanbarthol – yn cefnogi’r economi beirianneg fyd-eang trwy ymchwil gydweithredol, sylfaenol a chymhwysol, datblygiad ac arloesedd. Mae ein cyfleuster cydleoli unigryw yn golygu ein bod yn gallu cynnig amgylchedd ymchwil trawsffurfiannol ar gyfer partneriaethau rhwng academia a diwydiant.”

“Mae’n anrhydedd i ni bod Prif Weinidog Cymru wedi dod i lansio datblygiad a fydd yn arwain y byd. Bydd y labordai hyn, sy’n hynod arbenigol, yn dod â diwydiant ac academia yn nes at ei gilydd, ac mae’r cyllid a gafwyd o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi cyfrannu’n fawr at ein twf fel arweinydd yn y maes, yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.”

“Bydd seilwaith ac ethos ymchwil unigryw IMPACT yn caniatáu newid pwysig yng ngrwpiau ymchwil Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifiadol y Coleg, sydd eisoes yn neilltuol. Bydd y cyfleuster unigryw hwn, felly, yn helpu i gefnogi Cymru ymhellach fel cyrchfan byd-eang ar gyfer arloesi ym maes peirianneg uwch a gweithgynhyrchu clyfar.”

Rhannu'r stori