Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Staff Prifysgol Abertawe’n helpu i blannu coed derw ar Gampws y Bae

Fel rhan o’i dathliadau i nodi’i chanmlwyddiant, mae staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi plannu 50 o goed derw ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae.  

Nod y prosiect yw plannu olynwyr i’r coed derw hynafol a blannwyd 150 o flynyddoedd yn ôl ar Gampws Parc Singleton pan oedd y safle’n gartref i deulu Vivian, a wnaeth Abertawe’n enwog am ei hallbwn copr yn oes euraidd y rhanbarth o ran diwydiant.

Mae Benjamin Sampson, Swyddog Bio-amrywiaeth y Brifysgol, yn arwain y fenter. Meddai: “Bydd y prosiect i blannu Coed Derw ar gyfer y Canmlwyddiant yn cynnwys plannu 50 o goed ar draws y ddau gampws i gydnabod ein diolchgarwch i goed teulu Vivian ac i sicrhau y bydd myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach yn mwynhau manteision tebyg pan fydd y Brifysgol yn dathlu’i hail ganmlwyddiant.

Nid oes coeden arall sy'n cynnal yr un amrywiaeth bywyd ac nid oes yr un sydd mor bwysig i'n diwylliant â'r dderwen mes digoes. Mae'r coed derw ar safle Singleton Abertawe bellach yn dechrau dirywio'n araf ac, er y byddant yn rhoi cartref i ystod eang o fywyd gwyllt ac yn rhoi mwynhad i bobl am ddegawdau i ddod, pan fydd y Brifysgol yn dathlu’i hail ganmlwyddiant, byddant wedi hen fynd i lawr yr allt.

Ni ellir plannu coed newydd i gymryd lle coed hynafol yn y tymor byr; bydd coed derw a blannir heddiw’n cymryd o leiaf 100 o flynyddoedd i gyrraedd eu llawn dwf. Er y plannwyd llawer o goed ar y ddau gampws yn ddiweddar, a bydd y rhain yn darparu manteision amrywiol i’r amgylchedd, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn amrywiadau sy’n byw am gyfnod cymharol fyr a byddant wedi hen fynd cyn y coed derw.”

 

Rhannu'r stori