Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Sybil Crouch, a fu gynt yn Bennaeth Gwasanaethau Diwylliannol ac yn arweinydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe, wedi marw ddoe.

 thristwch mawr y clywsom fod Sybil Crouch, a fu gynt yn Bennaeth Gwasanaethau Diwylliannol ac yn arweinydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe, wedi marw.

Bu Sybil yn gyfrifol am droi Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn ganolfan arloesol â ffocws cymunedol heddiw. Roedd ei brwdfrydedd a'i hangerdd, am gynhwysiant a chyfleoedd i bawb gymryd rhan yn y celfyddydau a'u mwynhau, yn gefnogaeth ac yn ysbrydoliaeth i lawer o artistiaid, perfformwyr a phawb a oedd yn ddigon ffodus i weithio gyda hi. 

Gall llawer ym myd y celfyddydau yng Nghymru a'r tu hwnt dystio i'w chyfraniad enfawr at y celfyddydau yn gyffredinol a byd dawns gyfoes yn benodol. Roedd hi'n fentor gwych i gynifer o artistiaid ledled Cymru a hi oedd y sbardun y tu ôl i nifer di-rif o brosiectau celfyddydol a diwylliannol. 

Fel cyn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru a Chreu Cymru, a weithiodd yn agos ar gyfer llawer o sefydliadau ac artistiaid ledled Cymru a gyda nhw, ac oherwydd ei gwaith fel cynghorydd y ddinas, roedd Sybil mewn sefyllfa unigryw, fel arweinydd Canolfan y Celfyddydau, i ddod â gwaith a digwyddiadau cyffrous i Abertawe a'r rhanbarth. O Ddyddiau Dawns a'r Prosiect Dawns Ysgolion Cynradd, i'r Olympiad Diwylliannol a digwyddiadau coffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf yn Abertawe, Sybil yn aml oedd y person y tu ôl i'r penawdau. 

Roedd gan Sybil rôl allweddol hefyd yn yr ymdrech i greu cartref parhaol ar gyfer y Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe - sy'n parhau i ennill gwobrau am ei hymagwedd gynhwysol at wirfoddoli a'i gwaith i alluogi disgyblion ysgol i gael profiad o gasgliadau a gweithgareddau amgueddfa drwy ymweliadau a gweithgareddau i ysgolion. 

Dywedodd ei chydweithwyr yn Taliesin: “Rydym yn ddiolchgar i Sybil am lawer o bethau, ond yn bennaf oll am ei ffydd angerddol ym mhŵer y Celfyddydau a Diwylliant i wella a thrawsnewid bywydau. 

“Rydym yn cydymdeimlo â David, gŵr Sybil, a'i theulu a'i ffrindiau ar yr adeg hon.”

Rhannu'r stori