Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

A picture of students on a previous exchange from Texas

Dyfarnwyd €131,400 (£112,588) o gyllid i Brifysgol Abertawe i gefnogi symudiad myfyrwyr rhwng Abertawe a Phrifysgol Houston.

Bydd rhaglen addysg Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd yn darparu’r cyllid, a fydd yn cefnogi myfyrwyr sy’n dymuno treulio amser dramor.

Mae partneriaethau’r Brifysgol â Thecsas yn ei galluogi i gynnig cyfleoedd sy’n newid bywydau i fyfyrwyr, gan eu galluogi i dreulio amser dramor heb ffi ddysgu ychwanegol.

Mae ei rhaglenni cyfnewid, gyda thair prifysgol o’r radd flaenaf yn Nhecsas a chan gynnwys Prifysgol Houston, yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio dramor am semester neu flwyddyn.

Esbonia Rheolwr Partneriaeth Tecsas Caroline Coleman-Davies fod y myfyrwyr sydd wedi derbyn cyllid Erasmus+ i gymryd rhan mewn cynllun astudio dramor yn Nhecsas wedi elwa’n enfawr ohono. Dywedodd:

“Mae astudio dramor yn cael effaith enfawr ar y rhai sy’n ei wneud. Dywedodd y sawl a gafodd y cyfle eu bod yn fwy hyderus o ganlyniad, yn ogystal â gallu gweithio’n well gyda phobl o gefndiroedd a diwylliannau gwahanol, a bod y profiad wedi gwella eu rhagolygon gwaith.

Dywedodd Dr Coleman-Davies fod y profiad astudio dramor yn cynyddu sgiliau trosglwyddadwy myfyrwyr ac yn gwella eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol a, chan hynny, eu cyflogadwyedd.

Ychwanegodd: “Bydd y cynllun hwn, sydd â manteisio ar gyfer y ddwy ochr, yn cefnogi myfyrwyr sy’n dod atom o Brifysgol Houston, gan eu galluogi i elwa o arbenigedd academaidd Prifysgol Abertawe a phrofi popeth sydd gan Abertawe i’w gynnig.

Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i roi cyfle i bob myfyriwr ymgymryd â phrofiad byd-eang yn ystod ei radd, ac mae’r cyllid hwn ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd incwm isel a theuluoedd lle nad yw cenedlaethau gynt wedi cymryd rhan mewn Addysg Uwch.

Mae gan fyfyrwraig o Brifysgol Houston, Erika Patino, feddwl mawr o’i hamser yn Abertawe:

“Un o’r pethau gorau am fy mhrofiad dramor oedd cwrdd â chynifer o bobl wahanol o wledydd, diwylliannau a chefndiroedd gwahanol. Mae fy mhrofiad wedi fy newid fel person: Rwyf yn llawer mwy rhyddfrydol, ac yn fwy ymwybodol yn wleidyddol ac yn amgylcheddol.”

Gwnaeth myfyriwr o Brifysgol Abertawe, Scott Rosser, hefyd sylwadau ar ei amser dramor:

“Rwyf bob amser wedi ystyried fy hun i fod yn berson meddwl agored ond gallaf ddweud yn gwbl onest ei fod yn wir – mae teithio yn ehangu gorwelion. Mae wedi cadarnhau’r hyn yr oeddwn yn ei gredu o ran cynhwysiant a derbyn eraill, ni waeth lle y cawsoch eich geni neu eich ethnigrwydd. Mae eu profiadau nhw wedi fy ysgogi i ddechrau astudio ieithoedd ac, ar hyn o bryd, rwy’n astudio Ffrangeg a Sbaeneg.

*Rhaid i sefydliadau sy’n cymryd rhan yn Erasmus+ fod wedi eu sefydlu yng ngwlad y Rhaglen. Fodd bynnag, mae rhai o’r mentrau cyllido o ran ieuenctid ac addysg uwch hefyd ar agor i sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn Gwledydd Partner.

 

Rhannu'r stori