Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Canser - torri amserau aros o 84 diwrnod i 6

Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe a chydweithwyr y GIG yn dangos bod canolfan diagnosis cyflym wedi torri amseroedd aros ar gyfer cleifion â symptomau amhenodol a allai fod â chanser o 84 diwrnod i 6, ac mae'n costio llai na'r gofal arferol cyfredol os caiff ei ddefnyddio ar fwy nag 80% o'i gapasiti.

Fel y cyhoeddwyd yn y British Journal of General Practice, yr astudiaeth hon yw'r dadansoddiad cyflawn cyntaf o gost-effeithiolrwydd canolfannau diagnosis cyflym (RDCs).

Bellach mae RDCs yn cael eu sefydlu o fewn y GIG, gan adeiladu ar arbenigedd yn Nenmarc. Maent wedi'u hanelu at y nifer fawr o gleifion sydd â symptomau amhendant ac amhenodol a allai fod oherwydd canser, ond nad ydynt yn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer atgyfeirio brys.

Gwerthusodd yr ymchwilwyr yr RDC ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBUHB), sydd wedi ei sefydlu ers Mehefin 2017 yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot. Caiff cleifion eu cyfeirio at yr RDC gan eu meddygon teulu. Fe'u gwelir yn nodweddiadol yn y RDC o fewn wythnos am sesiwn boreol lle cant eu hadolygu gan dîm amlddisgyblaethol, eu harchwilio a chael sgan tomograffeg gyfrifiadurol (CT). Yna maent yn gweld clinigwr ac arbenigwr nyrs clinigol Macmillan i drafod a gweithredu ar y darganfyddiadau. 

Fe wnaeth y tîm ymchwil archwilio’r cyfnod o Fehefin 2017, pan agorwyd y ganolfan, hyd at fis Mai 2018. Yn ogystal â’r 189 o gleifion wnaeth ddefnyddio’r ganolfan , fe wnaeth y tîm hefyd efelychu grŵp rhithwir mwy o 1000 o gleifion, wedi ei seilio ar ddata bywyd go iawn. Fe wnaethant gymharu cleifion wnaeth ddilyn llwybr RDC gyda’r rheiny a gafodd eu trin yn y dull safonol.   

Fe wnaethant ddadansoddi’r gost a godwyd ond hefyd y manteision i gleifion, gan ddefnyddio “blynyddoedd bywyd wedi'u haddasu o ran ansawdd ” (QALYs), mesur safonol y GIG sy'n cyfuno maint ac ansawdd bywyd.

Fe wnaeth yr ymchwilwyr ddarganfod:

  • Gostyngwyd yr amser cyfartalog i ddiagnosis canser neu heb ganser, neu i ryddhau o'r clinig, o 84 diwrnod mewn gofal arferol i lai na 6 diwrnod, os gwneir y diagnosis yn yr apwyntiad RDC.
  • Os trefnir ymchwiliadau pellach yn RDC, yr amser i wneud diagnosis yw ychydig dros 40 diwrnod
  • Cyn belled â bod RDC yn rhedeg ar gapasiti 80% neu drosodd, mae'n llai costus, yn ogystal ag yn fwy effeithiol, nag arfer clinigol safonol.
  • Os caiff yr RDC ei redeg yn llawn gyda 5 claf y sesiwn, gallai Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe arbed £157,858 ac ennill 9.2 o flynyddoedd bywyd wedi'u haddasu o ansawdd (QALYs) ar gyfer pob 1,000 o gleifion sy'n mynychu'r RDC.

Meddai’r Prif Awdur Dr Bernadette Sewell, o Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe:

“Dengys ein hastudiaeth bod canolfannau diagnosis cyflym yn fuddiol i gleifion a’r GIG. Maent yn cwtogi amseroedd aros, sy'n golygu y gall unrhyw driniaeth sydd ei hangen ar bobl gychwyn yn gynharach. Po hiraf y mae'n ei gymryd i wneud diagnosis o ganser, y gwaethaf y gall y canlyniadau fod i gleifion a'r mwyaf drud y gall fod i'r GIG ei drin.

Yr allwedd yw sicrhau bod y canolfannau’n rhedeg o leiaf 80% o’u capasiti, fel y mae’r RDC yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot bellach yn ei wneud.

Nid yw pawb sydd â chanser yn arddangos symptomau ‘baner goch ’sy’n dynodi’r afiechyd ac yn gwneud y claf yn gymwys i gael ei gyfeirio at lwybr canser a amheuir ar frys. Gallai cymaint ag un o bob dau fod â symptomau amhendant, neu symptomau sydd i'w cael yn aml mewn ystod o gyflyrau eraill, megis colli pwysau, poen yn yr abdomen neu flinder.

Tuedda’r cleifion hyn fownsio o amgylch y system gofal iechyd, gan gymryd mwy o amser nes y gellir gwneud diagnosis, gyda symptomau, pryder a chostau a allai waethygu i'r GIG. Y cleifion hyn nad oedden nhw'n cael eu cynnal o'r blaen yw'r bobl y gall RDCs eu helpu mewn gwirionedd trwy rhoi diagnosis neu eu cysuro'n gyflym ac yn gost-effeithiol."

Meddai Dr Heather Wilkes, Arweinydd Meddygon Teulu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe RDC:

“Mae darparu’r gwasanaeth hwn, a’r ymrwymiad parhaus iddo gan SBUHB fel adnodd diagnostig ar gyfer gofal sylfaenol, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr wrth geisio ymchwilio’n gyflym a gofalu am rai o’r achosion anoddaf yn ein cymuned.

Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan gleifion a meddygon teulu fel ei gilydd ac fe'i sefydlwyd fel gwasanaeth parhaol yn dilyn ein gwerthusiad. "

Ariannwyd yr astudiaeth gan Cancer Research UK.

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch ymchwil ac addysg
ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori