Trosolwg o'r Cwrs
Mae PhD mewn Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.
Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.
Mae'r PhD yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.
Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 100,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).
Caiff ein hamgylchedd ymchwil deinamig ei lywio gan aelodau o staff ymroddedig sydd oll yn ymchwilwyr gweithredol ag amrywiaeth eang o ddiddordebau ac arbenigeddau drwy ein Grwpiau Ymchwil:
- Y Grŵp Ymchwil i Wrthdaro, Ailadeiladu a'r Cof (CRAM)
- Yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang (GDPO)
- Astudiaethau Rhyngwladol, Gwrthdaro a Diogelwch (ISCAS)
- Dadansoddi a Llywodraethu Gwleidyddol (PAG)
Mae'r arbenigedd hwn yn cynnwys:
- rhyfel cartref America
- polisi tramor yr UD
- 'rhyfel ar gyffuriau' yr UD
- gwleidyddiaeth a llywodraeth yr UD
- Gwyliadwriaeth ac America drefol
- ceidwadaeth Americanaidd
- hanes milwrol America
- llenyddiaeth, ffilm a diwylliant poblogaidd America yn yr 20fed ganrif
Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig ag Astudiaethau Americanaidd, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cei di gyfle i roi cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yn ein cynhadledd ôl-raddedig.
Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.