Ffiseg - Dysgu o Bell CERN, Ph.D. Distance Learning CERN

Llun agos o arbrawf ffiseg

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r PhD hwn yn gofyn am bresenoldeb yn Genefa, y Swistir ac mae'n cynnwys gweithio ar safle arbrofi ALPHA. Mae arbrawf ALPHA yn rhan o bartneriaeth Prifysgol Abertawe â CERN - rhan o gydweithrediad Gwrth-hydrogen blaenllaw'r byd.

Bydd y rhaglen hon yn cael ei goruchwylio yn CERN, Genefa gan yr Athro Niels Madsen, Dr Aled Isaac, yr Athro Dirk van Der Dirf a'r Athro Stefan Eriksson.

Mae Prifysgol Abertawe'n rhan o brosiect Gwrth-hydrogen o'r enw ALPHA ac mae wedi bod yn weithredol yn CERN ers 1999, yn gyntaf wrth arloesi arbrawf ATHENA a wnaeth y gwrth-hydrogen ynni isel cyntaf yn 2002 ac ers 2005 yn arbrawf ALPHA y mae Abertawe wedi'i gyd-greu gyda nifer o sefydliadau partner eraill.

Yng ngwaith cydweithio ALPHA yn CERN, mae tîm Abertawe'n arwain ar nifer o agweddau megis e.e. cronni positronau, trosglwyddo a pharatoi, synthesis a dal gwrth-hydrogen,  sbectrosgopeg laser manylder mawr, oeri laser Beryliwm a  sbectrosgopeg tra-main ar gyfer magnetometreg a dal gwrth-hydrogen yn well.

Abertawe yw'r unig brifysgol yng Nghymru sy'n gweithio yn CERN a'r unig un sy'n rhan o arbrawf ALPHA. Serch hynny, yn wahanol i arbrofion eraill mewn prifysgolion, mae arbrawf ALPHA yn waith llawer mwy, sy'n cynnwys 11 sefydliad a sawl cangen amrywiol ffiseg. Mae'r tîm sy'n gweithio ar ALPHA yn gorfod gweithio ar cryogenig, dulliau gwactod tra uchel, magnetau tra-ddagludol, canfyddwyr gronynnau uwch, laserau, ffiseg gronynnau, ffiseg plasma a ffiseg gronynnau ac wrth gwrs datblygu y systemau rheoli ac electroneg er mwyn iddo weithio gyda'i gilydd.

Mae ein Hadran Ffiseg ar gampws glan môr y Bae, lle byddwch yn elwa o amgylchedd modern ac integredig ochr yn ochr â'n pynciau Peirianneg, Mathemateg a Chyfrifiadureg.

Fel rhan o'ch dysgu, bydd gennych fynediad at labordai addysgu o'r radd flaenaf, mannau astudio dynodedig a chymuned gref er mwyn datblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad.

Byddwch hefyd yn elwa o fod yn agos at y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM), canolfan o fri Abertawe ar gyfer cynnal ymchwil i led-ddargludyddion a deunyddiau uwch, gan roi cysylltiad agosach i chi â chyfleusterau gwyddonol uwch a gweithgarwch rhyngddisgyblaethol.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.