Ffiseg Ddamcaniaethol, MSc drwy Ymchwil

Physics research at Swansea

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MSc drwy Ymchwil mewn Ffiseg Ddamcaniaethol yn eich galluogi i ymgymryd â rhaglen unigol blwyddyn o hyd o waith ymchwil a fydd yn eich cyfoethogi o safbwynt personol a phroffesiynol.

Trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil megis seminarau, gweithdai, gwaith yn y labordy a gwaith maes yn ogystal â chymryd rhan yn un o’n grwpiau ymchwil sefydledig, byddwch yn llywio eich prosiect ymchwil mewn ffiseg ddamcaniaethol.

Barnwyd bod dros 80% o'n hallbynnau ymchwil o grwpiau arbrofol a damcaniaethol yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagorol yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021).

Mae gennym dri phrif grŵp ymchwil.

Cefnogir y Grŵp Ffiseg Atomig, Foleciwlaidd a Chwantwm (AMQP) gan grantiau gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), yr Undeb Ewropeaidd, Y Gymdeithas Frenhinol, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac amrywiol ffynonellau diwydiannol a llywodraethol.

Dyma'r meysydd ymchwil:

  • Spectrosgopeg laser dadansoddol,
  • Deinameg, Delweddu a Microsgopeg Cyflym Iawn, Optomecaneg
  • Gwrth-hydrogen, positroniwm a phositronau
  • Ffiseg atomau oer
  • Ffiseg ar nanoraddfa a'r gwyddorau bywyd

Cefnogir y Grŵp Ffiseg Gymhwysol a Deunyddiau (APM) gan grantiau gan yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol, Cyngor Ymchwil Awstralia, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, a’r EPSRC.

Mae'r meysydd ymchwil yn cynnwys:

  • Bioffotoneg: Deunyddiau nano-strwythur a micro-strwythur, biomimeteg, synhwyro dadansoddynnau a rhyngweithio rhwng golau a meinwe
  • Nanofeddygaeth
  • Deunyddiau Uwch Cynaliadwy: Y genhedlaeth nesaf o led-ddargludyddion, deunyddiau a dyfeisiau bioelectronig, optoelectroneg gan gynnwys synhwyro golau, trosi ynni solar, electro-opteg uwch a ffiseg cludo solidau di-drefn

Mae'r Grŵp Damcaniaeth Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg (PPCT) yn un o'r pum grŵp ffiseg gronynnau mwyaf yn y DU. Fe'i cefnogir yn bennaf gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC), ond mae hefyd yn cael grantiau gan yr EPSRC, yr Undeb Ewropeaidd, y Gymdeithas Frenhinol ac Ymddiriedolaeth Leverhulme.

Mae'r meysydd ymchwil yn cynnwys:

  • Osgledau mewn damcaniaethau medrydd ac uwchddisgyrchiant
  • Mater Poeth a Dwys, Cyfrifiadura perfformiad uchel
  • Deuoliaeth medrydd/llinyn, holograffeg troelliad uwch, Integraddwyedd, damcaniaethau medrydd N mawr, uwchgymesuredd a deuoliaeth
  • Holograffeg a damcaniaethau dellt mewn ffiseg y tu hwnt i'r Model Safonol
  • Meysydd cwantwm mewn gofod-amser crwm a chosmoleg ddamcaniaethol

O fis Medi 2027, bydd yr Adran Ffiseg ar Gampws y Bae, lle bydd yr holl raglenni Ffiseg yn cael eu haddysgu, gan elwa o'n labordai ymchwil uwch a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.