Trosolwg o'r Cwrs
Mae Prifysgol Abertawe wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ryngwladol mewn Peirianneg Sifil a Chyfrifiadol ers dros 50 mlynedd. O'r 1960au ymlaen, roedd yr Adran Peirianneg Sifil yn gartref i'r ymchwilydd rhyngwladol cydnabyddedig, yr Athro Olek Zienkiewicz, a adnabyddid fel un o ddatblygwyr arloesol y Dull Elfennau Meidraidd (FEM). Mae'r dechneg sylfaenol hon wrth wraidd y rhan fwyaf o feddalwedd efelychu a chyfrifiannu peirianneg fodern sy'n cael ei defnyddio heddiw.
Mae'r Adran Peirianneg Sifil wedi'i rhestru:
- Ymysg y 25 rhaglen orau o’i bath yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2025)
- Ymysg y 25 uchaf yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Times Good University Guide 2025)
- Ymysg y 201-240 o raglenni gorau yn y byd ar gyfer Peirianneg - Sifil a Strwythurol (Tablau Prifysgolion y Byd QS 2024), ac
- 100% o'n Hamgylchedd Ymchwil yn Arwain y Ffordd yn Fyd-eang ac yn Rhagorol yn Rhyngwladol (REF 2021)
- Yn y 150 Uchaf (Rhestr Shanghai (Rhestr Academaidd o Brifysgolion y Byd) - Safleoedd yn ôl Pwnc 2024)
Mae gan yr Adran Peirianneg Sifil gryfder ac ehangder mewn llawer o feysydd allweddol ymchwil Peirianneg Sifil fodern, ac mae grwpiau ymchwil yn weithgar yn y themâu ymchwil canlynol:
Grŵp Ymchwil Peirianneg Arfordirol a Dŵr:Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio modelu cyfrifiadol newydd, technegau deallusrwydd artiffisial, a data arbrofol a data sy'n deillio o'r byd go iawn i archwilio prosesau arfordirol, hydrometeoroleg, deinameg afonydd, a risg llifogydd, gan gwmpasu ymchwil sylfaenol ac ymchwil gymhwysol.
Peirianneg Trafnidiaeth:Mae isadeiledd trafnidiaeth yn sylfaen hanfodol ar gyfer ein cymdeithas. Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio technolegau arloesol i ddatblygu systemau trafnidiaeth gwydn, cynaliadwy a chlyfar sy'n mynd i'r afael â heriau dybryd yr argyfwng hinsawdd. Mae'r gwaith arloesol yn cynnwys synhwyro clyfar wedi'i hunanbweru, deunyddiau ffordd hunan-adfer, asffalt carbon isel, rhwydweithiau synhwyrydd diwifr ar gyfer monitro trafnidiaeth glyfar, dysgu peirianyddol sy'n seiliedig ar ffiseg ar gyfer dadansoddi data uwch, a chynnal egni ar isadeiledd ffyrdd.
Deunyddiau Peirianneg Sifil ac Ymarfer Cynaliadwy: Rydym yn defnyddio ein cyfleusterau labordy a'n harbenigedd traws-ddisgyblaethol sylweddol i weithio mewn partneriaeth â diwydiant er mwyn ymchwilio i ystod amrywiol o ddeunyddiau adeiladu newydd a chynaliadwy, gan ganolbwyntio ar ddeunyddiau carbon-isel a chynaliadwy. Mae themâu ymchwil yn cynnwys concritau carbon isel, morterau smentaidd wedi'u hactifadu gan alcali, concritau perfformiad uchel iawn, geopolymerau ac agregau wedi'u hailgylchu.
Solidau, Strwythurau a Systemau Cypledig: Mae ein hymchwilwyr yn datblygu strategaethau cyfrifiadol arloesol i efelychu ystod eang o broblemau ffisegol a chymwysiadau peirianneg sy'n cynnwys yn fras meysydd solidau, strwythurau a systemau cypledig. Mae'r prif bynciau yn cynnwys mecaneg solidau cyfrifiadol, modelu deunyddiau, mecaneg torri, cyswllt ffrithiannol, cyfryngau gronynnog, geomecaneg a rhyngweithiadau rhwng strwythur a hylif.
Peirianneg Gyfrifiadol: Mae ein hymchwilwyr yn datblygu dulliau cyfrifiadol blaengar i efelychu amrywiaeth o ffenomenau ffisegol, gan gynnwys hylifau, solidau, symudiad tonnau a phroblemau aml-ffiseg. Mae'r ymchwil yn ymwneud â datblygiadau sylfaenol mewn dulliau rhifiadol, cynhyrchu rhwyllau, modelau wedi’u symleiddio (‘reduced order models’) a dysgu peirianyddol yn ogystal â'u defnydd wrth ddelio â phroblemau diwydiannol.
Caiff eich astudiaethau eu cefnogi gan gymuned ryngwladol o dros 500 o fyfyrwyr ôl-raddedig a 120 o aelodau staff ymchwil yn yr Adran Beirianneg.
Gallwch ddysgu mwy am ein staff academaidd, cyhoeddiadau ymchwil a meysydd goruchwylio yn Arbenigedd Ymchwil Peirianneg Sifil.