Ceisiadau ar gyfer POB Myfyriwr 2026/27 Nawr yn Agored – Ymgeisiwch Nawr!
Cynnig arbennig i fyfyrwyr sy’n dychwelyd ar gyfer y 200 ymgeisydd cyntaf!
Arhoswch lle mae'r Diddanwch
Pryderu am golli allan? Mae byw yn llety'r brifysgol yn eich rhoi wrth wraidd bywyd campws, gan ei gwneud hi'n hawdd ymuno â digwyddiadau, cwrdd â phobl newydd a chreu atgofion bythgofiadwy. Cadwch mewn cysylltiad, aros yn gymdeithasol a pheidio â cholli dim - oherwydd bod y profiadau gorau'n digwydd pan fyddwch chi yn y lle cywir!
Mae dechrau yn y brifysgol yn gyffrous, ac rydym yma i wneud eich symudiad yn un hwylus. Mae ein llety diogel a chroesawgar yn cynnig y lle perffaith i ymlacio ac ymgartrefu.
Dewch o Hyd i'r Llety Perffaith
Rydym yn cynnig opsiynau ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf, ôl-raddedig a chyfnewid. Dylech wneud cais cyn gynted â phosib - bydd cynigion yn cael eu hanfon ar ôl i chi gadarnhau eich lle.
Camau Nesaf
Dewiswch yr opsiwn sy'n eich disgrifio chi orau a dechreuwch y broses o ddod o hyd i'r cartref myfyrwyr. Os ydych eisoes wedi gwneud eich penderfyniad, gallwch gael gwybodaeth am sut i wneud cais am lety neu ddysgu mwy am gyrraedd a beth i ddod gyda chi.