Swimmer in a pool

Yn Abertawe mae Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn unigryw yn y DU gan ei bod yn rhan o’r Coleg Peirianneg sy’n cynnig amgylchedd a arweinir gan ymchwil ac sydd â digonedd o adnoddau. Mae staff A-STEM yn gwneud ymchwil amlddisgyblaethol arbenigol sydd ar flaen y gad ac mae eu hymchwil yn canolbwyntio ar Chwaraeon Elît a Phroffesiynol yn ogystal ag ar Feddygaeth ac Iechyd mewn Ymarfer Corff.

Mae ymchwil o safon fyd-eang yn cael ei gwneud mewn nifer o feysydd gan gynnwys atal dopio ac etheg chwaraeon, gweithgarwch corfforol plant a ffisioleg ymarfer corff.

Rhestrir Abertawe yn 5ed yn y DU ar gyfer effaith ymchwil ym maes perfformiad chwaraeon elît ac atal dopio.

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FRY) 2021: Rydym wrth ein bodd bod ein heffaith wedi cyflawni gradd o 100% o ran arwain y byd a rhagoriaeth ryngwladol, sy'n amlygu dyfnder ac ehangder ein hymchwil. Mae ein hamgylchedd, a ategir gan ecosystem Campws y Bae a gwaith gyda chyd-weithwyr ledled disgyblaethau, wedi ennill cydnabyddiaeth o 100% o ran arwain y byd a rhagoriaeth ryngwladol.

Mae'r THE wedi gosod Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth yn yr 20 Uchaf ar gyfer ymchwil (Times Higher Education 2022)

Mae A-STEM yn cynnig lle bywiog i weithio sydd ar flaen y gad. Rydyn ni’n gwahodd ymchwilwyr, myfyrwyr, byd diwydiant a’r trydydd sector i rannu’u huchelgais i wella’u henw da o safon fyd-eang o ran ymchwil ac addysgu ym maes gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff.

Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

Mae ein hymchwil yn cyfrannu at lwyddiant y nodau penodol hyn.