Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r Erasmus Mundus MA mewn Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon yn torri tir newydd ym maes gweinyddu a llywodraethu chwaraeon.
Byddwch yn dod yn rhan o genhedlaeth newydd o arbenigwyr ôl-raddedig a ddewisir o bob cwr o'r byd i wella ffederasiynau chwaraeon â'u harbenigedd mewn moeseg ac uniondeb.
Yn ystod y cwrs dwy flynedd, byddwch yn meithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd lefel uchel ym maes gweinyddu a llywodraethu chwaraeon, gyda ffocws ar chwaraeon moesegol, uniondeb a chydymffurfiaeth.
Gyda'r byd chwaraeon yn wynebu problemau moesegol cynyddol - o lygredd a thwyllo er mwyn sicrhau canlyniadau penodol i amddiffyn plant, dopio a betio anghyfreithiol - dyma o bosibl gyfle prin i ymateb mewn ffordd ystyrlon.