Circuit board: Gerd Altmann, Pixabay

Trosolwg o'r Grŵp

Mae'r grŵp Lled-ddargludyddion a Deunyddiau Electronig yn cynnwys gweithgareddau ymchwil sy'n torri tir newydd ym maes y genhedlaeth nesaf o led-ddargludyddion a deunyddiau dau ddimensiwn gyda chymwysiadau mewn dyfeisiau ffoto-electronig a ffotonig, electroneg pŵer, synwyryddion a micro/nanosystemau integredig. Rydym ni'n gwneud ymchwil ddamcaniaethol ac arbrofol ar ddyfeisiau sy'n rhychwantu popeth o signalau bach, amlder isel ac wedi’u hunanbweru i bŵer uchel ac amlder uchel.

Mae gweithgareddau ymchwil parhaus yn y meysydd canlynol:

  • Systemau electrofecanyddol micro/nano
  • Synwyryddion a chychwynwyr
  • Modelu damcaniaethol o ddeunyddiau a dyfeisiau lled-ddargludyddion
  • Dyfeisiau a systemau optegol, RF a meddygol
  • Dyfeisiau cwantwm
  • MOCVD Ocsid a Chalcogenid
  • Dyfeisiau cynhaeafu ynni