Cwis Elusen

Bellach yn ei 24ain flwyddyn, fel rheol mae Varsity Cymru yn ŵyl chwaraeon, twrnamaint o 48 gêm ar draws ystod o chwaraeon yn cystadlu am Darian Varsity Cymru.

Oherwydd COVID-19, roedd angen i Varsity 2020 fod ychydig yn wahanol. Ar 29 Ebrill, lansiwyd ein Varsity Rhithwir cyntaf. Roedd dwy wedd i’r digwyddiad unigryw hwn, gyda myfyrwyr o'r ddwy Brifysgol yn mynd benben â'i gilydd trwy gydol y dydd mewn cyfres o heriau.

Daeth y digwyddiad i ben gyda chwis Rhithwir Varsity, a gynhaliwyd gan Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe, capten rygbi Cymru ac un o Lewod Prydain, Ryan Jones.

“Ni fu cymuned ac ymdeimlad o berthyn erioed mor hanfodol ac roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig ein bod yn dal i gynnal y digwyddiad hwn a’i ddefnyddio i godi arian angenrheidiol i gefnogi unigolion ac adrannau yn y Brifysgol sy’n cynnal ymchwil i Covid-19, ac i gefnogi myfyrwyr, rhai ohonynt wedi ymuno â'r GIG rheng flaen i gynorthwyo yn y frwydr yn erbyn y firws. Diolch i bawb a gymerodd ran ac a’n helpodd ni i godi arian at achos mor werthfawr.”

- Rachel Thomas, Pennaeth Datblygu ac Ymgysylltu

Ailadrodd Varsity Rhithiol 2020