Sut i wneud cais
Cyn i chi ddechrau eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau'r camau canlynol a bod gennych y dogfennau a'r dystiolaeth gywir yn barod i'w huwchlwytho:
1. GWIRIO'R GOFYNION MYNEDIAD ACADEMAIDD
Gwiriwch y gofynion mynediad academaidd ar y dudalen we ar gyfer eich cwrs. Os oes gennych gymhwyster y tu allan i’r DU, gallwch adolygu’r cymwysterau rydym yn eu derbyn a’r graddau cyfatebol drwy wirio ein canllawiau gwlad-benodol.
2. TRAWSGRIFIADAU A THYSTYSGRIFAU ADDYSGOL
Gofynnir i chi gynnwys copïau o'r cymwysterau rydych chi'n eu rhestru ar eich cais - os na fyddwch chi'n uwchlwytho'ch trawsgrifiadau a/neu dystysgrifau, bydd eich cais yn cael ei oedi.
3. GWIRIO GOFYNION IAITH SAESNEG/CYMRAEG
Nodir gofynion iaith Saesneg neu Gymraeg ar y dudalen we ar gyfer eich cwrs. Rhaid i bob myfyriwr sy'n gwneud cais i Brifysgol Abertawe ddangos bod ganddynt lefel ddigonol o allu ieithyddol i astudio'r cwrs o'u dewis.
DYDDIAD CAU GWNEUD CAIS
Sicrhewch eich bod yn cyflwyno'ch cais erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig.
SYLWCH - os nad ydych yn bodloni'r gofynion uchod, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.
Dechrau'ch cais