Yn 2021, cysylltodd Dr Chinwe Ogunji o Brifysgol Ffederal Alex Ekwueme yn Nhalaith Eboyni, Nigeria, â Dr Jennifer Rudd, Uwch Ddarlithydd Arloesedd ac Ymgysylltu, i gydweithio ar gais am gymrodoriaeth Cymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad i gefnogi prosiect o’r enw "Ysgogi màs critigol o asiantiaid newid trwy weithredu ar yr hinsawdd".

Roedd y cynnig yn gyffrous iawn a’r syniad oedd hyfforddi ugain o athrawon ar draws Talaith Ebonyi ar y newid yn yr hinsawdd ac addysg newid yn yr hinsawdd. Yna, byddai’r athrawon yn sefydlu clybiau hinsawdd yn eu hysgolion a byddent yn dysgu am y newid yn yr hinsawdd gyda’i gilydd, gan arwain yn y pen draw at ymarfer plannu coed torfol.

“Mae’r gwaith a gynigiodd Dr Ogunji yn debyg iawn i waith rwyf innau wedi bod yn ei wneud yn y Deyrnas Unedig trwy’r prosiect Chi a CO2, sy’n cyfuno dulliau gwyddonol, digidol a chelfyddydol i rymuso dysgwyr i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd, yn hytrach na dysgu amdano yn unig. Ariannwyd prosiect Dr Ogunji ym mis Gorffennaf 2021 a dechreuodd gyda digwyddiad addysg deuddydd ar gyfer yr athrawon a oedd yn cymryd rhan. Yn ogystal ag addysgu’r athrawon am wyddoniaeth newid yn yr hinsawdd, fe’u hanogwyd hefyd i ddefnyddio dulliau creadigol i fynd ati i addysgu eu myfyrwyr am y pwnc.

Parhaodd raglen Dr Ogunji am flwyddyn a llwyddais i’w gefnogi ar hyd y ffordd trwy gyfnewid gwybodaeth a datblygu dulliau o asesu effaith y prosiect. Yr haf diwethaf, roeddwn yn falch iawn o allu clywed gan yr holl athrawon a gymerodd ran yn y prosiect trwy gyswllt fideo. Roedd yn rhyfeddol clywed rhai o’r straeon am yr hyn a ddysgwyd a sut oedd wedi lledaenu i’r gymuned hefyd yn hytrach na bod yn gyfyngedig i’r myfyrwyr.” Dr Jennifer Rudd

Mae Dr Ogunji a Dr Jennifer Rudd bellach wrthi’n ysgrifennu canfyddiadau’r gwaith hwn a thrafod y camau nesaf. 

Rhannu'r stori