Mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2023, cyflwynwyd doethuriaeth er anrhydedd i'r Athro Yogesh K. Dwivedi, ffigwr nodedig yn y byd academaidd, gan Brifysgol Galati.

Mae'r teitl a roddwyd iddo gan y sefydliad uchel ei barch, "Doctor Honoris Causa," yn deyrnged i'w gyfraniadau rhagorol at feysydd systemau gwybodaeth, marchnata digidol a rheoli strategol.

Mae'r Athro Dwivedi yn dal swyddi Athro Marchnata Digidol ac Arloesi a Phennaeth Dyfodol Digidol ar gyfer y Grŵp Ymchwil Busnes a Chymdeithas Cynaliadwy, yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Sefydlu'r Ganolfan Ymchwil i Farchnadoedd sy'n Datblygu (EMaRC) yn yr Ysgol Reolaeth. Mae wedi ennill clodydd ac edmygedd drwy gydol ei yrfa ddisglair.

Mae'r ymadrodd Lladin “Honoris Causa,” sy'n golygu “er yr anrhydedd”, yn cyfleu i’r dim arwyddocâd yr anrhydedd uchel ei fri hwn. Mae'n cydnabod unigolion sydd wedi arddangos ymroddiad eithriadol i'w proffesiwn ac sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at eu meysydd penodol.

Yn achos yr Athro Yogesh Dwivedi, mae'r anrhydedd hwn yn adlewyrchu ei allu academaidd ac yn cydnabod ei rôl wrth fentora ymchwilwyr di-rif ar ddechrau eu gyrfa. Mae ei daith yn y byd academaidd wedi cael ei nodweddu gan chwilfrydedd aruthrol ac ymrwymiad diwyro i ddatblygu damcaniaethau a dulliau ymchwil mewn systemau gwybodaeth, rheoli a marchnata.

Cyflwynwyd y cynnig i roi'r ddoethuriaeth er anrhydedd hon i'r Athro Dwivedi gan y Gyfadran Economeg a Gweinyddu Busnes ym Mhrifysgol Galați, “Dunarea de Jos”. Mae'r cydweithrediad hwn yn dangos bod partneriaeth agos rhwng y brifysgol a'r Athro Dwivedi, ac un o'i huchafbwyntiau oedd ei rôl fel y prif siaradwr yn y Gynhadledd Ryngwladol “Risk in Contemporary Economy” a gynhaliwyd gan y Gyfadran Economeg a Gweinyddu Busnes ym mis Ebrill 2023.

“Wrth i'r anrhydedd hwn gael ei gyflwyno'n hael i mi, mae'n fy atgoffa o addysgu tragwyddol Bhagavad Gita: Gwybodaeth yw'r llusern sy'n goleuo'r llwybr i ryddid. Yn hytrach na bod yn ddiwedd ar fy nhaith, mae'r gydnabyddiaeth hon yn gannwyll sy'n goleuo ymhellach lwybr gweithgarwch ysgolheigaidd. Wrth i mi gamu i gylch academaidd uchel ei barch Prifysgol Galați, "Dunarea de Jos", rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at rannu'r gannwyll hon o wybodaeth, er mwyn sbarduno meddyliau cydweithwyr a myfyrwyr fel ei gilydd, a theithio gyda'n gilydd tuag at well dealltwriaeth a doethineb.” Yr Athro Yogesh K Dwivedi.

Mae'r gymuned academaidd ac ymchwil yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniadau anhygoel a wnaed gan yr Athro Yogesh Dwivedi. Mae ei ymroddiad i geisio gwybodaeth ac mae ei waith arloesol mewn meysydd amrywiol wedi creu argraff barhaol ar y byd academaidd. 

Meddai'r Athro Paul Jones, Pennaeth yr Ysgol Reolaeth: “Mae'r anrhydedd hwn yn gydnabyddiaeth haeddiannol o gyfraniad anhygoel yr Athro Dwivedi at ddisgyblaeth rheoli gwybodaeth y mae'n ysgolhaig ynddi sy'n cael ei gydnabod yn fyd-eang.” 

Ar ran yr Ysgol Reolaeth a'r holl gymuned academaidd, rydym yn llongyfarch yr Athro Yogesh Dwivedi o galon ar yr anrhydedd haeddiannol hwn. Mae ei angerdd, ei ddealltwriaeth a'i ymrwymiad yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol o ymchwilwyr, ac mae ei effaith ar fyd gwyddor gwybodaeth yn anfesuradwy. Llongyfarchiadau, yr Athro Dwivedi, ar y cyflawniad anhygoel hwn!

Rhannu'r stori