Mewn cam sylweddol tuag at lywio dyfodol addysg gyfrifyddu, mae'r Athro Sarah Jones, Arweinydd Addysg yr Ysgol Reolaeth, wedi cael ei phenodi i grŵp cynghori Adolygiad yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) o Feincnodau Pynciau ar gyfer Addysg Uwch.

Nod yr adolygiad hwn, a gynhelir yn 2024-25, yw ailddiffinio safonau a disgwyliadau academaidd mewn disgyblaethau amrywiol, gan gynnwys cyfrifyddu.

Mae datganiadau meincnodau pynciau'n gwneud cyfraniad hollbwysig at amlinelli’r safonau a ddisgwylir gan raddedigion, gan nodi pa wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y dylent feddu arnynt wrth gwblhau eu hastudiaethau. Mae QAA yn flaenllaw wrth ddatblygu'r datganiadau hyn, gan sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn werthfawr drwy eu hadolygu a'u diweddaru o bryd i'w gilydd.

Ar gyfer y cylch adolygu sydd ar ddod, mae QAA wedi cynnull grwpiau cynghori sy'n cynnwys aelodau o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys y byd academaidd, cyflogwyr, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol, a myfyrwyr. Bydd y grwpiau hyn yn cynnig dealltwriaeth, barn a phrofiadau i lywio'r broses adolygu'n effeithiol.

Roedd yr Athro Jones yn frwd am ei chyfranogiad, gan ddweud: “Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o’r grŵp cynghori ar gyfer y datganiad Meincnodau Pwnc Cyfrifyddu newydd ac rwy'n edrych ymlaen at sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol i'r byd academaidd ac ymarfer proffesiynol.” Mae ei chynnwys yn dangos ymrwymiad i bontio'r bwlch rhwng theori academaidd a defnydd yn y byd go iawn ym maes cyfrifyddu.

Bydd yr adolygiad yn 2024-25 yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys Cyfrifyddu, Cyllid, Llyfrgellyddiaeth, Gwybodaeth, Dirnadaeth, Cofnodion, a Rheoli Archifau, Ffiseg, Seryddiaeth, ac Astroffiseg, Athroniaeth, Cerddoriaeth, Astudiaethau Addysg, a Pholisi Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Bydd pob un o'r pynciau hyn yn cael eu harchwilio'n drylwyr i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â safonau addysgol a phroffesiynol cyfoes.

Mae cyfranogiad yr Athro Jones yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithredu rhwng y byd academaidd a byd diwydiant wrth lywio dyfodol addysg gyfrifyddu. Wrth i broffesiwn cyfrifyddu newid mewn ymateb i ddatblygiadau technolegol a deinameg fyd-eang newidiol, mae'n fwyfwy pwysig sicrhau bod safonau addysgol yn dal i fod yn berthnasol a'u bod yn ymateb i dueddiadau sy'n dod i'r amlwg.

Mae Adolygiad QAA o Feincnodau Pynciau yn gyfle allweddol i ennyn diddordeb rhanddeiliaid o'r byd academaidd, byd diwydiant a chyrff rheoleiddiol mewn ymdrech ar y cyd i wella ansawdd a pherthnasedd addysg uwch. Mae cyfranogiad yr Athro Sarah Jones yn dangos ymroddiad addysgwyr i wella safonau addysg gyfrifyddu'n barhaus, er budd myfyrwyr, gweithwyr proffesiynol a'r gymuned ehangach yn y pen draw.

Rhannu'r stori