Mae'n bleser gennym gyhoeddi y dyfarnwyd y Siarter ar gyfer Entrepreneuriaeth Gynhwysol i Ysgol Reolaeth Prifsygol Abertawe.

Mae'r gydnabyddiaeth o fri hon yn ategu ein hymrwymiad i feithrin ecosystem entrepreneuraidd sy'n cynnwys amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y cyflawniad hwn, gan ei fod yn adlewyrchu ein hymroddiad i gynnig cyfleoedd i unigolion o bob cefndir a chymuned i ffynnu yn y dirwedd entrepreneuraidd.

Mae gan entrepreneuriaeth rôl hollbwysig wrth feithrin arloesi , creu swyddi ac ehangu'r economi. Yn ogystal â hynny, mae'n gatalydd ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol drwy roi cyfle i unigolion sefydlu cyfleoedd cyflogaeth drostynt eu hunain a'u cymunedau.  Drwy wneud hynny, mae'n cyfrannu at arloesi ac effaith cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae rhai grwpiau cymdeithasol, gan gynnwys menywod, lleiafrifoedd ethnig, unigolion ifanc, mewnfudwyr a'r rhai ag anableddau, yn dod ar draws rhwystrau unigryw sy'n eu hatal rhag dilyn llwybrau entrepreneuraidd. Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, mae entrepreneuriaeth gynhwysol yn ceisio dileu rhwystrau a gwella canlyniadau i bawb, yn enwedig y rhai hynny sy'n perthyn i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae hyn yn cynnwys rhoi mentrau polisi wedi'u teilwra ar waith, mabwysiadu arferion cynhwysol ac ymdrechion ar y cyd i greu tirwedd entrepreneuraidd decach.

Mae'r siarter hon yn nodi cyflawniadau Ysgol Reolaeth Abertawe ond mae hefyd yn dyst i'n hymdrechion parhaus i greu amgylchedd cynhwysol a fydd yn hybu arloesi, yn grymuso grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn cyfrannu at wella ein cymuned ac ardal ehangach Bae Abertawe'n gyffredinol.

Rhannu'r stori