som staff greeting Colombian delegation

Rhannu arloesedd, mentergarwch a gwybodaeth ddeori trwy genhadaeth lwyddiannus y British Council.

Yn sgil cais llwyddiannus i'r British Council gan Samuel Ebie, Louisa Huxtable-Thomas, Paul Jones, Gareth Davies a Dave Bolton o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth gan asiantaeth arloesi a menter genedlaethol Colombia, INN-Pulsa, cafwyd dirprwyaeth o ddwy o brifysgolion Colombia:Corporacion Univeristaria Minuto de Dios (Uniminuto) ac Universiti La Salle.

Nod y genhadaeth oedd dysgu mwy am y system arloesi, menter a magu lwyddiannus y mae'r Brifysgol yn ei hwyluso yma yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe. Roedd y genhadaeth yn llwyddiannus a chafwyd ymrwymiad gan ein hymwelwyr i geisio cyllid am ddirprwyaeth o Abertawe i fynd i gyd-genhadaeth yng Ngholombia ar ddechrau 2020. At hynny, cafwyd ymrwymiad gan INN-Pulsa i gynnal digwyddiad bwrdd crwn a arweinir gan ymchwil ar ddeallusrwydd artiffisial, yn seiliedig ar ddigwyddiad a gynhaliwyd ar ddechrau 2019 gan yr Athro Mike Williams a'r Athro Yogesh Dwivedi.

Hoffai'r tîm ddiolch i bawb a oedd yn rhan o sicrhau bod cenhadaeth y British Council (yr ail eleni) mor llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys cydweithwyr o'r Coleg Peirianneg a'r Ysgol Feddygaeth.

Rhannu'r stori