hand holding painted rainbow heart

Awdur: Samuel Mann, Ymchwilydd PhD mewn Tueddfryd rhywiol a Lles, Prifysgol Abertawe

Mewn blynyddoedd diweddar, mae hawliau LGBT+ wedi gwella'n sylweddol. Mae priodi rhywun o'r un rhyw bellach yn gyfreithlon ac yn cael ei gydnabod mewn 28 o wledydd. Mae cyfreithiau cydraddoldeb yn amddiffyn pobl LGBT+ yn y gweithle ac mae mwy o gyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yn gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o gyfeiriadedd rhywiol. Fodd bynnag, mae gwaith i'w wneud o hyd i sicrhau cydraddoldeb i bawb, ac mae ymchwilwyr wedi bod yn archwilio sut mae ffactorau gwahanol fel y rhain yn cyfrannu at hapusrwydd a boddhad â bywyd pobl â hunaniaethau rhywiol lleiafrifol.

Ar gyfartaledd, mae astudiaethau wedi dangos bod pobl hoyw a deurywiol yn adrodd bod ganddynt lefelau is o foddhad â bywyd na phobl wahanrywiol. Mae hyn wedi'i gysylltu â phrofiad pobl hoyw a deurywiol o heteronormaledd (sef y dybiaeth mai cyfeiriadedd gwahanrywiol a hunaniaeth rywedd ddeuaidd sy'n "normal", ac sydd wedi arwain at adeiladu byd sy'n diwallu anghenion a dyheadau bywyd gwahanrywiol), sy'n arwain at warthnodi. Ar gyfer ein hastudiaeth newydd, ymchwiliwyd yn ddyfnach i'r cysylltiadau rhwng rhywioldeb a boddhad â bywyd, a'r hyn a ganfuwyd gennym oedd bod gan bobl â hunaniaeth rywiol "arall" – megis panrywiol, demirywiol ac anrhywiol – hefyd lefelau is o foddhad â bywyd na phobl wahanrywiol.

Gwahaniaethau o ran lles

Gan dynnu ar 150,000 o ymatebion a gasglwyd dros gyfnod pum mlynedd yr arolwg Deall Cymdeithas, aethom ati i ddadansoddi a oedd y bobl wahanrywiol hapusaf yn hapsuach na'r bobl o leiafrifoedd rhywiol hapusaf, ac a oedd y lleiafrifoedd rhywiol lleiaf hapus yn llai hapus na'r bobl wahanrywiol lleiaf hapus. Wrth ymdrin â'r data, rheolwyd nifer o elfennau – megis oedran, cyflogaeth, personoliaeth, a lleoliad – i sicrhau bod ein canlyniadau'n canolbwyntio ar hunaniaeth rywiol yn unig.

Er bod astudiaethau eraill wedi ystyried "cyfartaledd" effaith hunaniaeth rywiol ar hapusrwydd (lle dengys fod lleiafrifoedd rhywiol yn adrodd am lefelau is o foddhad), ystyriwyd y dosraniad lles cyfan gennyf i a'm cyd-weithwyr. Hynny yw, ystyriwyd y gwahaniaethau rhwng pobl wahanrywiol a lleiafrifoedd rhywiol a'r lefelau isaf, cyfartalog ac uchaf o foddhad â bywyd, yn unol â'r hyn a adroddwyd ganddynt.

Mae'n canlyniadau'n glir – mae hunaniaeth rywiol yn cyd-fynd â boddhad â bywyd, ond mae arlliwiau i'r darlun. Canfuom mai dynion hoyw yn llai bodlon â'u bywydau na dynion gwahanrywiol, ac eithrio ar frig y dosraniad lles (lle maent ar eu hapusaf). Canfuom hefyd fod menywod hoyw yn fwy bodlon â'u bywydau na menywod gwahanrywiol, er, yn ddiddorol iawn, ac eithrio ar y lefelau lles isaf.

Pobl ddeurywiol, waeth beth fo'u rhyw corfforol, sy'n adrodd y lefelau isaf o foddhad â bywyd, a gellir cymharu'r golled o ran lles sy'n gysylltiedig â bod yn ddeurywiol (yn hytrach na gwahanrywiol) ag effeithiau diweithdra neu salwch. Mewn gwirionedd, o'r holl hunaniaethau rhywiol a ddadansoddwyd gennym, canfuom mai pobl ddeurywiol sydd leiaf bodlon â'u bywydau.

Mae hunaniaethau rhywiol "eraill" yn gysylltiedig â lefelau boddhad is yn rhan waelod y dosraniad, ond boddhad uwch â bywyd yn y rhan uchaf. Golyga hyn fod y bobl leiaf hapus â hunaniaeth rywiol arall yn llai hapus na'u cyfatebion gwahanrywiol. Serch hynny, mae'r bobl hapusaf â hunaniaeth rywiol arall yn hapusach na'u cyfatebion gwahanrywiol.

Er bod ein canfyddiadau'n amlygu pwysigrwydd rhywedd (neu, i fod yn fwy cywir, y rhyngwyneb rhyngddo a hunaniaeth rywiol), mae hyn ond yn berthnasol i bobl hoyw. Fel a nodwyd uchod, mae'r canlyniadau ar gyfer dynion a menywod hoyw yn wahanol iawn. Mae hyn yn gwneud synnwyr o gofio bod ymchwil arall wedi amlygu'r ffaith bod agweddau cymdeithasol tuag at lesbiaid yn fwy ffafriol na thuag at ddynion hoyw. Felly, mae'n debygol bod y boddhad uwch â bywyd y mae lesbiaid yn ei fynegi (o'i gymharu â menywod gwahanrywiol) yn gysylltiedig â'r agweddau cymdeithasol mwy cadarnhaol hyn.

Hunaniaeth a chael eich derbyn

Gan ystyried ein canfyddiadau ar gyfer hunaniaethau rhywiol eraill, credwn ei bod yn debygol bod ymwybyddiaeth gynyddol (er enghraifft o ganlyniad i fwy o gynrychiolaeth ar y teledu) wedi lleihau'r angen i rai pobl "esbonio" eu hunaniaeth i eraill. Bydd hyn yn golygu bod ailddatgan dilysrwydd eu rhywioldeb i'w hunain yn haws hefyd. Os ydym yn ystyried hyn yng nghyd-destun hunanymwybyddiaeth gynyddol o hunaniaeth sy'n rhoi ystyr i atyniad (neu ddiffyg atyniad), mae'r lles cadarnhaol a nodwyd ar gyfer y grŵp hwn yn ddealladwy.

Er y gellir dadlau y dylai'r un peth fod yn wir i bobl ddeurywiol, mae gwahaniaeth sylweddol rhwng deurywioldeb a hunaniaethau "eraill". Mae deurywioleb yn hunaniaeth sydd wedi bodoli am gyfnod sylweddol o hwy ac roedd yn rhan o symudiad LGBT gwreiddiol. A serch hynny, mae'n debygol bod y straen lleiafrifol mwy y mae pobl ddeurywiol yn ei ddioddef yn adlewyrchu eu profiad o warthnod o'r cymunedau gwahanrywiol a chyfunrywiol drwy ddileu deurywioldeb a diffyg derbyn deurywioldeb.

Ar y cyfan, mae'n hymchwil yn dangos bod pobl â hunaniaeth rywiol leiafrifol yn llai bodlon â'u bywydau ar gyfartaledd, ond ar draws y dosraniad lles, daw darlun mwy cadarnhaol i'r amlwg. Os ystyriwn ymchwil arall i agweddau cymdeithasol gwahanol a'r ffaith bod cymdeithas yn fwy parod i dderbyn hunaniaethau rhywiol penodol, mae'n glir bod ymdeimlad o gael eich derbyn yn bwysig. Gall wynebu diarddeliad ar sail eich hunaniaeth rywiol gael effaith negyddol fawr ar ba mor fodlon ydych chi â'ch bywyd.

 

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation.

Rhannu'r stori