Mae’n destun balchder i’r Ysgol Reolaeth bod Alex Lewis, sy’n fyfyriwr BSc Marchnata ar ei blwyddyn olaf, wedi’i henwi’n enillydd cyntaf gwobr ‘Llysgennad Myfyrwyr y Flwyddyn’ gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM).

Mae’r wobr glodfawr hon yn cydnabod y cyfraniadau sylweddol a wneir gan unigolion i’r corff proffesiynol ac i’r proffesiwn marchnata trwy eu hymroddiad a’u hymrwymiad i waith gwirfoddol.

Mae gwobrau gwirfoddolwyr CIM yn cynnwys amrywiaeth o gategorïau, gan gynnwys Llysgennad Addysg, Llysgennad Cyfathrebu, a Llysgennad Digwyddiadau’r Flwyddyn. Eleni, mewn datblygiad cyffrous, cyflwynwyd gwobr ‘Llysgennad Myfyrwyr y Flwyddyn’ gan CIM, gyda’r nod o anrhydeddu myfyrwyr rhagorol sy’n mynd ati’n weithredol i wirfoddoli a hyrwyddo mentrau a digwyddiadau CIM o fewn eu sefydliadau academaidd.

Gan fod rhaglenni gradd BSc Marchnata a BSc Rheoli Busnes (Marchnata) yr Ysgol Reolaeth yn cael eu hachredu gan CIM, mae gan fyfyrwyr fel Alex Lewis gyfle unigryw i gymryd rhan fel Llysgenhadon Myfyrwyr o fewn y sefydliad yn ystod eu hastudiaethau. Drwy gydol ei thaith academaidd, dangosodd Alex ymroddiad rhyfeddol i’w rôl wirfoddol fel Llysgennad Myfyrwyr CIM, a bu’n chwarae rhan hollbwysig yn hyrwyddo gweminarau a chylchlythyrau Clwb Marchnata CIM ymhlith ei chyd-fyfyrwyr.

Ar ôl clywed y newyddion, mynegodd Alex Lewis ei llawenydd, gan ddweud, “Roeddwn wrth fy modd i ddarganfod fy mod wedi ennill Gwobr Llysgennad Myfyrwyr y Flwyddyn! Roeddwn wedi mwynhau’n fawr iawn yr amser a dreuliais yn gwirfoddoli i CIM, gan y cefais y cyfle i ennill profiad ymarferol o farchnata wrth astudio ar gyfer fy rhaglen radd, felly roedd yn sioc hyfryd i glywed bod fy ngwaith gwirfoddol wedi’i gydnabod gan gorff proffesiynol o fri.”

Aeth Alex ymlaen i bwysleisio’r profiadau amhrisiadwy a gafodd yn ei rôl wirfoddol, a roddodd gyfle iddi hyrwyddo digwyddiadau ar-lein mewn negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol, a mynychu cyfarfodydd ar-lein â gwirfoddolwyr o bob rhan o’r DU, a chyfrannu at wefan CIM (Cymru) wrth adolygu gweminarau.

“Rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i ymgysylltu â CIM drwy gydol fy astudiaethau, a byddwn yn annog myfyrwyr marchnata’r dyfodol i fanteisio ar y cyfle i wirfoddoli i CIM fel Llysgennad Myfyrwyr, gan fod hyn wedi fy ngalluogi i ennill profiad perthnasol a gwella fy nealltwriaeth o farchnata,” ychwanegodd Alex.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar-lein, lle derbyniodd Alex ei chydnabyddiaeth haeddiannol yng nghwmni enwebeion ac enillwyr gwobrau eraill CIM, y mae llawer ohonynt yn weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant marchnata. Er ei bod ar gam cynnar yn ei gyrfa ym maes marchnata, mae Alex yn teimlo’n freintiedig o gael ei chydnabod gan gorff mor nodedig, ac mae’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth y mae wedi’u datblygu yn ystod ei phrofiad gwirfoddol yn ei hymdrechion yn y dyfodol.

Mae cyflawniad Alex Lewis yn ysbrydoliaeth i ddarpar fyfyrwyr marchnata ym Mhrifysgol Abertawe a thu hwnt, gan ddangos pwysigrwydd cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau cyrff proffesiynol fel CIM. Mae ei llwyddiant fel enillydd cyntaf ‘Llysgennad Myfyrwyr y Flwyddyn’ yn pwysleisio’r cyfleoedd di-ben-draw y mae gwirfoddoli yn eu cynnig i fyfyrwyr, gan gyfoethogi eu taith academaidd a darparu profiad ymarferol gwirioneddol yn eu dewis faes.

Mae’r Ysgol Reolaeth yn falch i ganmol Alex Lewis am ei hymrwymiad a’i hymroddiad eithriadol yn ei rôl wirfoddol, ac yn dymuno llwyddiant parhaus iddi wrth gychwyn ar yrfa gyffrous ym myd marchnata.

Rhannu'r stori