georgia evans with dresses

Gyda thymor y dawnsfeydd ar y gweill, mae un myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi sicrhau na fydd angen ichi dorri'r banc i brynu ffrog eich breuddwydion.

Dechreuodd Georgia Evans, 19 oed, sy'n fyfyriwr yn  ail flwyddyn yr Ysgol Reolaeth, ei busnes ar-lein ei hun sef UShall ym mis Chwefror. Yma gall cwsmer brynu ffrogiau nos prydferth, nad ydynt wedi'u gwisgo rhyw lawer ar gyfer dawnsfeydd, digwyddiadau ac achlysuron arbennig am bris sydd tipyn yn rhatach na'u prisiau gwreiddiol.

Mae Georgia hefyd yn cynnig opsiwn i brynu'n ôl sy'n galluogi cwsmeriaid i brynu eu ffrog, ei gwisgo yn eu digwyddiad dewisol ac yna ei gwerthu am ffi y cytunir arni. Mae hyn yn golygu y gall cwsmer adennill ychydig o'r gost wreiddiol, a rhoi cyfle i rywun arall wisgo'r ffrog o'i breuddwydion am bris fforddiadwy.

Mae UShall yn chwarae ar eiriau stori tylwyth teg enwog, lle gwireddir breuddwydion Sinderela ac mae hi'n mynd i'r ddawns i gwrdd â'i thywysog.

Dywedodd Georgia, sy'n dod o Abertawe yn wreiddiol ac a aeth i Ysgol Olchfa, fod y syniad ar gyfer ei busnes wedi hanu o'i phrofiad ei hun o fynd i ddawns.

"Pan oedd angen prynu ffrog ar gyfer fy nawns i, sylweddolais pa mor ddrud oeddent," meddai.

Mae dawnsfeydd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf. Fel arfer, maen nhw'n cael eu cynnal i fyfyrwyr ddathlu eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd neu'r ysgol uwchradd.

Ond gall rhieni wario cannoedd o bunnoedd ar ffrogiau a chyfwisgoedd ar gyfer y diwrnod mawr.

"Nid oedd llawer o bobl yn gallu fforddio'r ffrogiau o'u breuddwydion, ond y gwir amdani yw nad oes angen gwario llawer o arian ar ffrog," dywedodd Georgia.

"Gwisgais fy ffrog i am bum awr a dydw i ddim wedi ei gwisgo ers hynny – felly meddyliais fod yn rhaid bod rhywbeth y gellir ei wneud i sicrhau bod rhywun arall yn gallu gwisgo a charu'r ffrog unwaith eto.

"Dyna o ble ddaeth y syniad ar gyfer UShall yn y lle cyntaf.

"Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn sefydlu fy musnes fy hun, a fy mreuddwyd i oedd dechrau busnes bach wrth astudio yn y brifysgol. Roedd y radd Entrepreneuriaeth yn golygu fy mod i'n gallu gwneud hynny."

Er bod UShall yn paratoi ar gyfer y gyfres ddiweddaraf o ddawnsfeydd ysgol, mae Georgia'n gobeithio tyfu ei busnes ar-lein yn araf deg.

Ychwanegodd: "Rwy'n ystyried y posibilrwydd o ehangu'r busnes i fagiau, esgidiau a chyfwisgoedd. Rwyf hefyd yn chwilio am bobl i roi ffrogiau o safon ardderchog, felly cysylltwch â mi os hoffech gefnogi neu weld fy ystod lawn o ffrogiau."

Gallwch gysylltu â Georgia ar info@ushall.co.uk neu drwy ymweld â thudalennau UShall ar Facebook neu Instagram.

Rhannu'r stori