Ers dwy flynedd, mae Tîm Swyddfa Ganol a Gwasanaethau Awtomeiddio Liberata wedi cydweithredu â menter prosiect blwyddyn olaf Prifysgol Abertawe i roi profiad o'r byd go iawn i fyfyrwyr a'u paratoi ar gyfer heriau yn y gweithle.

Mae'r astudiaeth achos hon yn amlygu stori lwyddiant un o aelodau ein tîm, Matthew, un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a gymerodd ran ym menter y prosiect blwyddyn olaf ac a sicrhaodd gyflogaeth fel Arbenigwr Cyllid yn Liberata.

Dechreuodd taith Matthew fel myfyriwr a gymerodd ran ym menter prosiect blwyddyn olaf Prifysgol Abertawe. Rhoddodd y modiwl hwn gyfle i Matthew feithrin sgiliau gwerthfawr a chael profiadau a fyddai'n hollbwysig nes ymlaen yn ei yrfa yn Liberata. Drwy'r modiwl, cafodd Matthew blatfform i roi gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn senarios ymarferol, gan wella ei alluoedd datrys problemau a'i sgiliau meddwl yn feirniadol.

Ar ôl iddo gwblhau ei astudiaethau, symudodd Matthew i rôl yn Liberata lle mae'n parhau i ffynnu. Gan ddefnyddio'r sgiliau a'r profiadau a ddeilliodd o’i gyfranogiad ym menter y prosiect blwyddyn olaf, mae Matthew wedi ymgartrefu'n gyflym yn Nhîm y Swyddfa Ganol a’r Gwasanaethau Awtomeiddio.

Meddai Matthew, "Roedd y modiwl blwyddyn o hyd yn ddefnyddiol mewn sawl ffordd, yn enwedig y cyflwyniad grŵp a oedd yn gofyn i ni fod yn gyfforddus yn cyflwyno i uwch-gydweithwyr a meddu ar ddealltwriaeth ddofn o'r ymchwil roedd fy nhîm a mi wedi'i gwneud. Er i mi ddysgu'r rhan fwyaf o'm gwybodaeth o fodiwlau eraill megis "Bancio Buddsoddi" a'r "Flwyddyn mewn Diwydiant" gwnaeth Menter Prosiect Blwyddyn Olaf Prifysgol Abertawe gyfrannu'n bendant at y profiadau bywyd go iawn dwi'n eu defnyddio yn fy ngwaith."

Siaradodd Ruth Smith, Cyfarwyddwr Swyddfa Ganol a Gwasanaethau Awtomeiddio Liberata am berfformiad Matthew pan ofynnwyd iddo gyflwyno ei syniad i gael ei ystyried gan yr uwch-reolwyr.  Yn Nhîm y Swyddfa Ganol a'r Gwasanaethau Awtomeiddio mae aelodau staff yn cael eu hannog i awgrymu gwelliannau i wasanaethau a phrosesau drwy fenter benodol, sef Hyrwyddwyr Dyfeisgarwch. Mae'r fenter hon yn meithrin diwylliant o arloesi a gwella parhaus yn y tîm, gan rymuso aelodau'r tîm fel Matthew i gyfrannu eu syniadau ac ysgogi newid cadarnhaol.  Yn ôl Ruth, roedd hi'n amlwg o'i gyflwyniad Hyrwyddwr Dyfeisgarwch bod Matthew wedi defnyddio'r sgiliau a'r profiad a gafodd drwy gymryd rhan ym menter y prosiect blwyddyn olaf. Pwysleisiodd Ruth bwysigrwydd sgiliau o'r fath i gyflogeion ac amlygodd y manteision fframwaith academaidd sy'n deillio o gydweithredu â sefydliadau megis Prifysgol Abertawe.

"Dangosodd cyflwyniad Matthew effaith sylweddol ei gyfranogiad ym menter y prosiect blwyddyn olaf. Mae'n amlwg bod y sgiliau a'r profiadau a gafodd drwy astudio academaidd o'r fath yn amhrisiadwy i lwyddiant cyflogeion yn y gweithle." Meddai Ruth Smith

Mae stori lwyddiant Matthew yn enghraifft o'r buddion ymarferol sy'n deillio o gydweithredu rhwng y gymuned academaidd a byd diwydiant. Wrth rannu stori lwyddiant Matthew a sylwadau Ruth, nod Liberata yw dangos canlyniadau cadarnhaol cydweithredu â Phrifysgol Abertawe a phwysleisio pwysigrwydd partneriaethau rhwng y gymuned academaidd a byd diwydiant wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus.

 

Rhannu'r stori