myfyriwr gwrywaidd yn gwenu

Astudiaeth Achos: Luke Green, Sylfaenydd GoGo Coffee, myfyriwr BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi)

Pam dewisaist ti astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gan y Brifysgol enw rhagorol ac roedd fy narlithydd busnes yng Ngholeg Sir Benfro’n siarad yn gadarnhaol iawn am gynnig busnes yr Ysgol Reolaeth, a’r llwybr entrepreneuriaeth yn benodol.

Roeddwn i eisoes wedi penderfynu fy mod i am sefydlu fy musnes fy hun felly penderfynais i ymweld ar Ddiwrnod Agored. Siaradais i â’r darlithydd Dave Bolton. Roedd yn galonogol iawn, a helpodd mi i sylweddoli mai Abertawe oedd y lle i mi.

Beth ydych chi’n dwlu arno am eich cwrs?

Dw i wrth fy modd gyda’r ffaith y gallaf weithio ar fy niddordeb mawr, sef cynnal fy musnes fy hun, wrth astudio. Mae dysgu annibynnol yn rhan fawr o’r cwrs hefyd, ac mae hyn yn ffordd aeddfed iawn o ddysgu gan mai eich cyfrifoldeb chi yw gwneud y gwaith a defnyddio’ch amser yn gall.

Beth yw GoGo Coffee?

Gwasanaeth coffi arbenigol yw GoGo Coffee a weithredir mewn Smart Car.

Ethos y cwmni yw darparu profiad coffi cynaliadwy i gwsmeriaid drwy ddefnyddio peiriannau coffi sy’n defnyddio batris yng nghefn car ag allyriadau carbon isel, gan greu coffi blasus iawn, o darddiad lleol, wedi’u gweini mewn cwpanau bio-dafladwy.

O ble daeth y syniad?

Tra oeddwn i’n astudio rheoli busnes yn y coleg, ces i’r syniad o ddefnyddio certi barf Siôn Corn a hufen iâ gyda beic. Fodd bynnag, pan lwyddais i yn fy mhrawf gyrru, archwiliais i opsiynau eraill a fyddai’n fy ngalluogi i deithio ymhellach a gweini cynulleidfa fwy. Dyma sut y sefydlwyd GoGo Coffee. Byddai gallu gyrru i gyrchfannau eraill i weini coffi, gyda maint elw o 350% wir yn helpu i ddechrau’r busnes o ddifrif.

Sut mae Prifysgol Abertawe wedi’ch helpu chi i ddatblygu eich busnes?

Prynais i’r car fy hun ac roedd eisoes wedi’i newid er mwyn gwerthu coffi o’r gist. Roedd hyn yn Sylfaen wych er mwyn lansio fy musnes. Roeddwn i wir wedi mwynhau’r modiwl Cynllunio Busnes ar fy nghwrs gan iddo fy annog  i feddwl yn weithredol am fy musnes. Rwy’n falch o ddweud imi gael y canlyniadau gorau yn hanes y modiwl.

Hefyd, gwnaeth y modiwl Entrepreneuriaeth Gymhwysol fy helpu i lansio fy musnes yn llawn oherwydd bod yn rhaid i fyfyrwyr redeg eu busnesau eu hunain fel rhan o’r modiwl. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr hefyd ofyn am gyllid ychwanegol yn arddull Dragon’s Den. Roedden i’n falch iawn o dderbyn y swm mwyaf posib o £2,200.

Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yswiriant cerbyd, stoc ac uned storio sydd oll yn angenrheidiol i ddyfodol GoGo Coffee. Mae dechrau eich busnes eich hun fel rhan o’r radd yn ymrwymiad mawr ond mae’n wych y byddaf yn graddio wedi sefydlu fy musnes fy hun eisoes. Yn y dyfodol gobeithiaf y bydd rhyddfreintiau o fusnesau GoGo Coffee ledled y wlad.

Rhannu'r stori