Headshot Fern

Cynhaliwyd Gwobrau’r Rhaglen Beilot Lleihau Allyriadau Carbon ddydd Mawrth, 14 Mawrth, i ddathlu llwyddiannau’r busnesau sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.

Roedd Dr Fern Davies, Uwch-ddarlithydd strategaeth a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, ac Arweinydd Cynaliadwyedd Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, yn gyflwynydd yn y gwobrau hyn ochr yn ochr â Robert Lloyd-Griffiths OBE, Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Busnes Cymru a Chyfarwyddwr ICAEW yng Nghymru.

“Fel arweinydd cynaliadwyedd yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, roedd hi’n bleser cael cyflwyno yn seremoni wobrwyo Lleihau Allyriadau Carbon Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i ddathlu’r busnesau a’r interniaid sy’n cymryd rhan.

Diolch i Morwenna Tyler a Simeon Smith o’n tîm cyflogadwyedd am roi’r cyfle gwerthfawr hwn am interniaethau i’n myfyrwyr, i Richard Morris a’i dîm yn Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, ac i Dr Paul G Davies am ei gyfraniad. Gwelir yn amlwg sut mae rhaglenni fel hon yn cyfrannu’n sylweddol at fyfyrwyr, sefydliadau addysg uwch, busnesau, cymunedau ac, yn y pen draw, at ffyniant hirdymor Cymru.” Dr Fern Davies

Mae cynaliadwyedd a’r argyfwng hinsawdd yn flaenoriaethau strategol craidd sy’n ganolog i Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ac rydym yn falch o fod yn aelodau gweithgar o fenter Egwyddorion Addysg Reolaeth Gyfrifol y Cenhedloedd Unedig (UN PRIME) er mwyn dangos tystiolaeth o’r ymrwymiad hwn. 

Rydym yn cydnabod y cyfrifoldeb i baratoi myfyrwyr a rhanddeiliaid allweddol fel bod ganddynt y wybodaeth, yr angerdd a’r meddylfryd i ysgogi newid a mynd i’r afael â heriau byd eang mawr yn rhagweithiol. Cyfraniad arwyddocaol at hyn yw trwy gydweithrediad a chefnogaeth ein rhanbarth lleol ar gyfer rhaglenni fel Peilot Lleihau Carbon y Rhaglen Cyflymu Twf.

Rhannu'r stori