summer start up week graphic

Mae'r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn dathlu yn dilyn chwarae rôl mewn ennill Gwobr Hyfforddwyr Entrepreneuriaeth Genedlaethol eleni.

Mae Gwobrau Hyfforddwyr Entrepreneuriaeth Cenedlaethol, a drefnwyd gan Enterprise Educators UK, yn cydnabod rhagoriaeth mewn entrepreneuriaeth ac addysg entrepreneuraidd ym maes addysg ac addysgu uwch yn y DU. Y nod yw gwobrwyo a dathlu’r bobl hynny sydd wedi dangos ymrwymiad rhagorol ac ysbrydoledig i gefnogi entrepreneuriaeth myfyrwyr a graddedigion.

Enillydd y categori Catalydd Entrepreneuriaeth oedd Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf – "Cydweithrediad Cenedlaethol", gan gynnwys pob un o 23 o brifysgolion a cholegau Cymru.

Ffocws y wobr hon yw datblygu sgiliau a nodweddion entrepreneuriaeth eang i'w cymhwyso mewn unrhyw gyd-destun, gan gynnwys cyflogaeth ac entrepreneuriaeth. Roedd y beirniaid yn chwilio am brosiectau a mentrau rhagorol sy'n cefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau a nodweddion entrepreneuraidd eang ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol.

Roedd Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf yn gydweithrediad ar-lein arloesol rhwng yr holl sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru i fynd i'r afael â'r angen i gefnogi a galluogi busnesau cyn eu sefydlu ac yn eu camau cynnar yn ystod pandemig y Coronafeirws. Mae cau'r campws o 21 Mawrth wedi darparu cyfle unigryw i ddod â Hyfforddwyr Entrepreneuriaeth Cymru ynghyd i lunio, cynllunio a chyflwyno sesiynau dwys a chymuned dechrau ar-lein wythnos o hyd ar gyfer mwy na 500 o entrepreneuriaid addawol a newydd.

Cydlynwyd yr wythnos hon o gydweithio drwy Zoom ar ran Prifysgol Abertawe gan Kelly Jordan, Swyddog Entrepreneuriaeth, a hithau ei hun yn ail yng nghategori Seren y Dyfodol o Wobrau Hyfforddwyr Entrepreneuriaeth Cenedlaethol.

Chris Jones (dyn tywydd S4C) oedd yn cyflwyno am yr wythnos, ac roedd y digwyddiad yn cynnwys sesiynau byw o fodelau rôl Entrepreneuraidd Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr o faes busnes Cymru. 

Cymerodd Dave Bolton, sy’n Uwch-ddarlithydd mewn Entrepreneuriaeth ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen (BSc Rheoli Busnes), ran mewn sawl sesiwn, ac roedd nifer gyfartalog o 350 o gyfranogwyr ym mhob sesiwn.

Ysgrifennodd Ken Skates, Aelod Seneddol a Gweinidog dros yr Economi, Cludiant a Gogledd Cymru at Is-gangellorion pob un o'r sefydliadau, gan longyfarch y rhwydwaith o hyrwyddwyr entrepreneuriaeth. Meddai:

“Mae'n galonogol iawn i glywed bod sefydliadau addysg bellach ac uwch Cymru ar flaen y gad pan ddaw i ymarferion arloesol. Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth addas o'r addysg entrepreneuraidd rhagorol sy'n cael ei chyflawni y tu allan i'r cwricwlwm."

Rhannu'r stori