NEWSPAPERS

Mae dau fyfyriwr graddedig o'r Ysgol Reolaeth wedi cael eu rhestru yn rhestr Top 35 under 35: The top young business and professional men in Wales 2020 WalesOnline .

Mae'r anrhydedd hwn yn cydnabod y bobl ifanc ragorol sy'n cael effaith ym myd busnes ledled Cymru.

Mae Sam Gibson, a raddiodd gyda BSc mewn Rheoli Busnes bellach yn rheolwr-gyfarwyddwr Enjovia yng Nghasnewydd, sy'n helpu cwsmeriaid i werthu mwy o dalebau rhodd, tocynnau a nwyddau.

Mae'r busnes yn un pwrpasol i westai, sbas a bwytai er mwyn cynyddu refeniw. Mae Enjovia yn cynnig llwyfan personol a diogel lle gellir gwerthu talebau arian, sba, ciniawa, llety a phrofiadau eraill.Mae cleientiaid yn cynnwys cadeirydd clwb pêl-droed Dinas Caerdydd, Vincent Tan a'i ddiddordebau twristiaeth a lletygarwch ym Maleisia.

Lansiodd Joe Charman, a raddiodd gyda BSc mewn Rheoli Busnes hefyd, ei fusnes Pilot Plus yn Abertawe yn 16 oed. Graddiodd Jack eleni a bellach, bydd yn cymryd camau tuag at dyfu'r busnes, ar y cyd â'i bartner busnes, Jack Bengeyfield.

Mae Pilot Plus yn efelychu meysydd awyr y byd go iawn ar ffurf 3D ddigidol, â'r nod o hyfforddi peilotiaid.

Chwe blynedd ers lansio Pilot Plus, mae gan Mr Charman fwy na 4,000 o gwsmeriaid o bedwar ban byd, ac mae ei feddalwedd yn cael ei brynu gan ysgolion hedfan, peilotiaid masnachol a phobl sy'n dwlu ar hedfan ar draws y byd.

Yn siarad am lwyddiannau'r graddedigion neilltuol hyn, dywedodd Cyfarwyddwr Rhaglen y BSc mewn Rheoli Busnes, David Bolton:

"Nid yn unig mae ein Rhaglenni Rheoli Busnes, a'r llwybr Mentergarwch ac Arloesedd yn benodol, yn galluogi myfyrwyr i ddysgu am entrepreneuriaeth a sgiliau entrepreneuraidd, maent hefyd yn eu galluogi i'w cymhwyso i amgylcheddau byd go iawn drwy  ddechrau eu mentrau eu hunain neu drwy rymuso eraill drwy ein prosiect yn y flwyddyn olaf. Pleser yw gweld cynifer o'n myfyrwyr presennol a'n cyn-fyfyrwyr ardderchog yn gwneud mor dda."

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio ar ein rhaglen Rheoli Busnes yn yr Ysgol Reolaeth, beth am archwilio ein cyrsiau nawr.

Rhannu'r stori