Stacked newspaper image

Dyddiad: Nos Fercher 21ain Hydref am 5.00pm.

Mae croeso i bawb ond mae cadw lle'n hanfodol oherwydd y bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael yn y gweminar Zoom.

Bydd cyfle i'r gynulleidfa ofyn cwestiynau

Mae’r sgwrs hon yn seiliedig ar lyfr newydd o’r enw Streets of Gold: Immigration and the American Dream Over Two Centuries. Mae gan y cyhoedd olwg hiraethus ar fewnfudo i’r Unol Daleithiau ganrif yn ôl yn ystod yr Oes Mewnfudo Torfol o Ewrop. Dadleuir bod gweledigaeth “Y Freuddwyd Americanaidd”, lle y mae mewnfudwyr yn cyrraedd heb geiniog ond yn ymuno â’r dosbarth canol yn gyflym, wedi’i or-ddweud yn y gorffennol a heddiw. Yn hytrach, mae mewnfudwyr eu hunain, yn y ddau gyfnod, yn dringo i fyny’r ysgol economaidd ychydig ac yn ymgysylltu â chymathu diwylliannol. Mae plant y mewnfudwyr yn cyrraedd yr un lefel â’r plant a anwyd yn yr Unol Daleithiau, yn y gorffennol a heddiw, ac o bron pob gwlad y daethant ohoni. 

Siaradwyr

Mae Leah Boustan yn Athro Economeg ym Mhrifysgol Princeton, lle mae hefyd yn gyswllt cyfadran yn yr Uned Perthnasoedd Diwydiannol. Mae ei hymchwil ar y groesfan rhwng hanes economaidd ac economeg lafur. Mae ei llyfr, Competition in the Promised Land: Black Migrants in Northern Cities and Labor Markets (Princeton University Press, 2016) yn archwilio effaith Mudo Mawr y Bobl Dduon o'r de gwledig yn ystod ac yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Mae ei gwaith diweddar wedi bod ar fudo ar raddfa fawr o Ewrop i'r Unol Daleithiau ar ddiwedd  y deunawfed  ganrif a dechrau’r ugeinfed ganrif.

Rhannu'r stori