Mewn cyhoeddiad o bwys, mae AIS (Cymdeithas Systemau Gwybodaeth) wedi datgelu bod Dr Denis Dennehy, Arweinydd Ymchwil yn yr Ysgol Reolaeth, wedi cael ei anrhydeddu â Gwobr Gwasanaeth Sandra Slaughter uchel ei bri ar gyfer 2023.

Ar ôl ystyriaeth ofalus gan Bwyllgor Gwobr Gwasanaeth Sandra Slaughter AIS – wedi'i gadeirio gan Sue Brown ac yn cynnwys aelodau AIS o bob un o'r tair ardal (cyfandiroedd America; Ewrop, Affrica a'r Dwyrain Canol; Asia a'r Môr Tawel), ynghyd ag Isabel Ramos, Is-lywydd Aelodaeth a Changhennau AIS – dewiswyd Dr Dennehy i ennill yr anrhydedd clodfawr hwn. Cyflwynir y wobr, sy'n symbol o gydnabyddiaeth ac edmygedd yng nghymuned AIS, i grŵp dethol o aelodau'n unig sydd wedi dangos arweinyddiaeth ac ymroddiad eithriadol i'r Gymdeithas.

Gwelwyd bod Dr Dennehy yn haeddu derbyn Gwobr Gwasanaeth Sandra Slaughter o ganlyniad i'w gyfraniadau neilltuol, yn enwedig ym maes cyfranogi yn y grwpiau diddordeb arbennig a'r canghennau, yn ogystal â chryfhau cynadleddau ac ymwneud â chyfnodolion a noddir gan AIS. Denis yw prif olygydd ar y cyd Communications of the Association for Information Systems, ac uwch-olygydd Information Technology and People, ac mae wedi golygu llawer o rifynnau arbennig sy'n gysylltiedig â'i faes. Enillodd raddau (PhD, MComm, BSc) mewn systemau gwybodaeth busnes yng Ngholeg Prifysgol Corc. Mae'r wobr hon yn brawf o'i ymrwymiad hirsefydlog i hyrwyddo cenhadaeth a nodau AIS.

Mae enillwyr Gwobr Gwasanaeth Sandra Slaughter yn cael eu dathlu am eu heffaith barhaus ar gymuned AIS a'u hymrwymiad i feithrin rhagoriaeth ym maes systemau gwybodaeth. Mae ymroddiad a gwasanaeth rhagorol Dr Denis Dennehy wedi creu argraff annileadwy ar y Gymdeithas, gan ei wneud yn deilwng o dderbyn yr anrhydedd clodfawr hwn. 

Meddai Dr Denis Dennehy: “Rwyf mor falch a diolchgar i dderbyn y wobr hon. Hoffwn i ddiolch i'r pwyllgor gwobrwyo, fy nghymheiriaid a wnaeth fy enwebu a'm cydweithwyr yn yr Ysgol Reolaeth am fy nghefnogi. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i wasanaethu'r gymuned systemau gwybodaeth a gwneud y byd yn lle gwell i bawb.”

Mae cymuned gyfan yr Ysgol Reolaeth yn llongyfarch Dr Denis Dennehy o'r galon ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon. Mae ei gyflawniadau'n ysbrydoliaeth i aelodau eraill AIS, gan amlygu'r effaith fawr y gall unigolion ymroddedig ei chael ar hyrwyddo systemau gwybodaeth yn fyd-eang. Llongyfarchiadau, Dr Dennehy, ar y cyflawniad anhygoel hwn!

Rhannu'r stori