Mewn cyhoeddiad diweddar, penodwyd Dr. Denis Dennehy yn un o Gyd-Brif Olygyddion Cyfathrebu’r Gymdeithas Systemau Gwybodaeth (CAIS).

Gwnaeth bwyllgor chwilio’r Gymdeithas Systemau Gwybodaeth (AIS) y penderfyniad ar ôl rhoi ystyriaeth ofalus i brofiad helaeth Dr. Dennehy a’i gyfraniadau at faes systemau gwybodaeth.

Ar hyn o bryd, mae Dr. Dennehy yn gwasanaethu fel Athro Cyswllt Dadansoddeg Fusnes (Ymchwil) ac Arweinydd Ymchwil yr Ysgol yn yr Ysgol Reolaeth. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar rôl gyfryngu dadansoddeg a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg a sut maen nhw’n effeithio ar unigolion, sefydliadau, a chymdeithas.

Drwy gydol ei yrfa, mae Dr. Dennehy wedi dylunio, cyflwyno a gwerthuso modiwlau cysylltiedig â systemau gwybodaeth ar lefelau addysgol amrywiol, gan gynnwys rhaglenni is-raddedig, ôl-raddedig, ac addysg weithredol. Mae ei feysydd arbenigedd yn rhychwantu ystod eang o bynciau fel strategaeth arloesi systemau gwybodaeth, rheoli prosiect a phortffolio, gwerth busnes technolegau sy’n dod i’r amlwg, gweddnewid digidol, rheoli cadwyn gyflenwi, systemau gwybodaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy, a dulliau ymchwil.

Mae Dr. Dennehy wedi bod yn aelod o’r Gymdeithas Systemau Gwybodaeth (AIS) ers bron i ddegawd, ac mae wedi cyfrannu’n weithredol at ddatblygu’r maes yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae canfyddiadau ei waith ymchwil wedi cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion mawr eu bri, gan gynnwys yr European Journal of Operational Research, Government Information Quarterly, IEEE Software, IEEE Transactions on Technology and Society, Information & Management, Information Systems Frontiers, Information Technology & People, International Journal of Operations & Production Management, International Journal of Production Research, Journal of Systems & Software, a’r Project Management Journal.

Mae penodi Dr. Dennehy yn Gyd-Brif Olygydd CAIS yn adlewyrchu ei enw da a’i arbenigedd eithriadol ym maes systemau gwybodaeth. Ac yntau’n un o’r prif leisiau yn y diwydiant, disgwylir i gyfraniadau Dr. Dennehy at CAIS ffurfio dyfodol y gymdeithas a’i haelodau mewn ffordd gadarnhaol.

Yn ei rôl newydd, bydd Dr. Dennehy yn gweithio’n agos gyda’r tîm golygyddol i sicrhau bod erthyglau ymchwil o ansawdd uchel yn cael eu cyhoeddi’n amserol yn CAIS. Bydd ei ymroddiad i feithrin cydweithio a hwyluso lledaenu gwybodaeth yn cryfhau CAIS ymhellach fel platfform arweiniol ar gyfer ymchwil systemau gwybodaeth.

Mae’r gymuned gyfan yn llongyfarch Dr. Denis Dennehy ar ei benodi’n Gyd-Brif Olygydd Cyfathrebu’r Gymdeithas Systemau Gwybodaeth. Gyda’i gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd, mae mewn sefyllfa i gael effaith arwyddocaol ar ddatblygu maes systemau gwybodaeth a ffurfio cyfeiriad CAIS yn y blynyddoedd i ddod.

Rhannu'r stori