Ar ddydd Mercher 21 Chwefror, agorodd Banc Aldermore ei ddrysau i israddedigion ac ôl-raddedigion o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer y gweithdy blynyddol 'Strategaeth mewn Busnes'.

Eleni, cynhaliwyd y digwyddiad yn swyddfa Cyllid MotoNovo yng Nghaerdydd ac roedd un o gydweithwyr Banc Aldermore, a oedd yn ddiweddar wedi pontio o addysg i gyflogaeth, yn bresennol i rannu profiadau amhrisiadwy.

Gall pontio o'r byd academaidd i ddiwydiant fod yn dasg heriol ac anodd, gyda graddedigion ar gyfartaledd yn cymryd 3 i 18 mis i sicrhau eu swydd gyntaf. Gyda thua 800,000 o fyfyrwyr iar fin graddio yn 2024, mae mentrau fel y gweithdy 'Strategaeth mewn Busnes' yn hollbwysig i baratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithlu.

Mae Banc Aldermore yn ymrwymedig i gynyddu lefel parodrwydd ymysg myfyrwyr lleol gan ddarparu'r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn cymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd yn hyderus. Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad craff ar strategaeth sefydliadol Banc Aldermore gan Gyfarwyddwr Optimeiddio Gwerthiannau Chris Rowthorn. Dilynwyd hyn gan banel gyrfaoedd oedd yn cynnwys Katie Winiberg (Cynorthwy-ydd AD graddedig), Pippa Monger (Pennaeth Grŵp Profi a Datblygu), a Hannah Levie (Hyfforddwr Rheoledig), oedd wedi rhannu eu teithiau gyrfaol a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb.

Uchafbwynt y gweithdy oedd ymarferiad strategaeth trochi wedi'i arwain gan Bartner Talent a Gyrfaoedd Cynnar, Francesca Webster, Aelod cysylltiol y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu. Roedd yr ymarferiad hwn wedi galluogi myfyrwyr i gymhwyso eu gwybodaeth mewn amgylchedd ymarferol, wedi'i ddilyn gan ymarferion rhesymu anwythol a diddwythol i ddod â'r diwrnod i ben.

Roedd Morwenna Tyler, Ymgynghorydd Ymgysylltiad Busnes (gyrfaoedd), Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, wedi gwneud sylw ar y digwyddiad gan nodi "diwrnod dwys o weithgareddau grŵp a thasgau sy'n seiliedig ar asesiad. Roedd ein myfyrwyr yn anhygoel!"

Mae'r gweithdy 'Strategaeth mewn Busnes' yn dyst i ymrwymiad Banc Aldermore i feithrin talent a mabwysiadu trawsnewidiad llyfn o addysg i gyflogaeth ar gyfer myfyrwyr yn Rhanbarthau Abertawe a Chaerdydd.

Rhannu'r stori