Athro Francisco Liñán a'r Athro Inmaculada Jaén

Roedd yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe'n llawn cyffro wrth iddi groesawu dau westai o fri o Universidad de Sevilla yn Sbaen.

Dechreuodd yr Athro Francisco Liñán a'r Athro Inmaculada Jaén, ysgolheigion a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes entrepreneuriaeth, ar daith secondiad ymchwil yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf.

Roedd y cydweithrediad yn nodi carreg filltir bwysig yn ymdrechion parhaus y ddau sefydliad i feithrin gwaithgarwch i gyfnewidfa gwybodaeth academaidd a datblygu'r ddealltwriaeth o ymddygiad entrepreneuraidd ar draws rhanbarthau gwahanol. Cyflwynodd yr ysgolheigion gwadd lu o wybodaeth ac arbenigedd, gan addo safbwyntiau newydd ar fyd cymhleth entrepreneuriaeth.

Yn ystod eu harhosiad, mae'r Athrawon Liñán a Jaén wedi cynnal amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi creu effaith barhaus ar y myfyrwyr ac aelodau'r gyfadran. Un o uchafbwyntiau eu hymweliad oedd y seminar ymchwil gyfareddol a drefnwyd ar gyfer grŵp ymchwil I-lab, cynulliad o feddylwyr craff o'r Ysgol Reolaeth. Roedd y seminar yn canolbwyntio ar werthuso ymddygiad entrepreneuraidd yn rhanbarthau amrywiol Sbaen, gan daflu goleuni ar y ffactorau dynamig sy'n dylanwadu ar dirlun entrepreneuraidd lleoliadau amrywiol.

Bu'r Athro Paul Jones, Pennaeth yr Ysgol Reolaeth, yn rhannu ei frwdfrydedd am y cydweithio, gan ddweud "Rydym yn hynod falch o groesawu'r Athrawon Liñán a Jaén ar eu secondiad ymchwil, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â nhw dros y blynyddoedd sydd i ddod".  Rhannwyd y farn hon gan lawer yn y gymuned academaidd, gan fod y cyfle i weithio gydag ysgolheigion o fri yn addo cyfoethogi’r profiad addysgol gan ehangu ffiniau ymchwil entrepreneuraidd.

Mae'r Ysgol Reolaeth, sy'n adnabyddus am ei hymrwymiad i ragoriaeth mewn addysg ac ymchwil, yn ymfalchïo mewn meithrin amgylchedd o gydweithio ac arloesedd.  Mae'r ymweliad gan yr Athrawon Liñán a Jaén yn cyd-fynd yn berffaith â'r weledigaeth hon, gan annog myfyrwyr ac aelodau'r gyfadran i archwilio llwybrau newydd o feddwl ac ymchwilio.

Wrth i'r gymuned academaidd fyfyrio ar y ddealltwriaeth a enillwyd a'r trafodaethau a ysgogwyd gan yr ymwelwyr o fri hyn, mae'n amlwg y bydd eu heffaith yn parhau i gael ei theimlo drwy ymchwil barhaus, trafodaethau yn yr ystafell ddosbarth a chydweithrediadau yn y dyfodol. Mae'r Ysgol Reolaeth yn edrych ymlaen yn eiddgar at y cyfoeth o wybodaeth a chyfleoedd a fydd yn deillio o'r bartneriaeth draws-gyfandirol hon am flynyddoedd i ddod.

Rhannu'r stori