Mae'n bleser mawr gan yr Ysgol Reolaeth estyn ei llongyfarchiadau gwresog i Dr Mohamed Elmagrhi, ein Hathro Cyfrifeg uchel ei barch, am ennill y teitl urddasol "Adolygwr Neilltuol” yng Ngwobrau Emerald Literati 2023.

Dr Mohamed H Elmagrhi with awardMae'r gydnabyddiaeth wych hon yn dyst i ymrwymiad diwyro a chyfraniadau amhrisiadwy Dr Elmagrhi ym maes llywodraethu corfforaethol.

Mae Gwobrau Emerald Literati yn blatfform o fri sy'n anrhydeddu ymchwil ragorol a chyfraniadau ysgolheigaidd mewn disgyblaethau academaidd amrywiol. Oherwydd ei ymroddiad a'i arbenigedd eithriadol, mae Dr Mohamed Elmagrhi yn ymuno â'r dethol rai sy'n cael eu cydnabod gan dîm golygyddol Corporate Governance.

Gan fynegi ei ddiolchgarwch a'i gyffro wrth dderbyn yr anrhydedd hwn, meddai Dr Elmagrhi, "Rwyf wrth fy modd yn ennill gwobr am yr Adolygwr Neilltuol yng Ngwobrau Emerald Literati 2023 sy'n cael eu dewis gan dîm golygyddol Corporate Governance. Rwy'n ddiolchgar i'r tîm golygyddol ac i Emerald am gydnabod fy ngwaith caled a'm hymroddiad yn y broses adolygu. Mae'r dyfarniad hwn yn ategu gwerth fy ymagwedd at ymchwil, sydd wedi canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth empirig a damcaniaethol ond hefyd ar effeithiau ymarferol, proffesiynol ac ar bolisi.

Mae ymrwymiad Dr Elmagrhi at y broses adolygu a'i frwdfrydedd am hyrwyddo maes llywodraethu corfforaethol heb os wedi'i amlygu fel academydd ac ymchwilydd eithriadol. Mae ei ymroddiad i lunio adolygiadau ansawdd uchel sy'n cyfrannu at ehangu gwybodaeth yn ei faes wedi denu sylw.

Mae'r Ysgol Reolaeth yn estyn ei llongyfarchiadau mwyaf gwresog i Dr Mohamed Elmagrhi am y gydnabyddiaeth haeddiannol hon. Rydym yn hynod falch o'i gyflawniadau ac yn edrych ymlaen at weld ei gyfraniadau parhaus at y gymuned academaidd. Yn ogystal â bod yn dyst i'w waith caled, mae llwyddiant Dr Elmagrhi hefyd yn ysbrydoliaeth i bawb sy'n dyheu am wneud gwahaniaeth ystyrlon yn eu meysydd penodol.

Wrth i ni ddathlu'r cyflawniad rhagorol hwn, edrychwn ymlaen at lwyddiant parhaus Dr Elmagrhi ac at dwf parhaus ein Hysgol Reolaeth fel canolfan rhagoriaeth ac arloesi academaidd.

Rhannu'r stori