news papers stacked

Seminar Ymchwil Economeg Robert C Jump Prifysgol Greenwich Dydd Iau 28 Tachwedd 15:00-17:00 Y Neuadd Fawr 018

Teitl:

Amddifadedd a daearyddiaeth etholiadol Brexit

Crynodeb:

Mae sawl naratif wedi dod i’r amlwg i esbonio pleidlais Prydain dros adael yr Undeb Ewropeaidd.  Un o’r rhai mwyaf poblogaidd yn y cyfryngau a thrafodaethau cyhoeddus yw pwysigrwydd rhannau cymharol amddifad y wlad, y rhan amlaf ohonynt o lawer a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd.  Er gwaethaf poblogrwydd y naratif hwn, fodd bynnag, nid oes llawer o dystiolaeth bod lleoedd mwy amddifad yn fwy tebygol o bleidleisio i adael mewn gwirionedd.  Yn y papur hwn, rydym yn archwilio’r cysylltiad rhwng amddifadedd daearyddol, a fesurwyd gan Fynegai Amddifadedd Lluosog, a chyfrannau pleidlais Gadael mewn is-set o wardiau Lloegr.  Gan ddefnyddio dulliau cydberthyniad rhestrol, gan gynnwys ymagwedd optimeiddio newydd, rydym yn dangos bod cydberthynas gadarnhaol rhwng amddifadedd daearyddol â phleidleisio dros adael. Fodd bynnag, nid yw’r gydberthynas yn gryf a maes pwysicaf amddifadedd yw amddifadedd addysgol.  Ar ben hynny, mae’r gydberthynas rhwng amddifadedd a phleidleisio dros adael yn diflannu pan fyddwn yn ystyried cyrhaeddiad mewn addysg uwch neu gyfansoddiad swyddi.  Rydym yn ystyried goblygiadau’r naratif “wedi’u gadael ar ei hôl hi”.

Bywgraffiad:

Cymrawd ymchwil ydw i, yn Sefydliad Economi Wleidyddol, Llywodraethu, Cyllid ac Atebolrwydd Prifysgol Greenwich.  Rwy’n aelod o Gymdeithas Reteaching Economics ac yn olygydd cysylltiol i gofnodolyn Review of Social Economy.

Mae rhan fwyaf fy ngwaith yn cynnwys macro-economeg a pholisi cyhoeddus.  Mae gennyf ddiddordeb penodol mewn ffynonellau ansefydlogrwydd economaidd, gan gynnwys cylchoedd ariannol, disgwyliadau a hysteresis hunangyflawnol, a newidiadau sefydliadol a allai liniaru eu heffeithiau.  Yn ddiweddarach, rwyf wedi bod yn gweithio ar gwestiynau ynghylch daearyddiaeth wleidyddol ac economaidd, yn enwedig daearyddiaeth etholiadol Brexit.

Rhannu'r stori