Gan yr Athro Nicholas Rich, darlithydd Creu Gwerth Cynaliadwy ar y rhaglen MBA

Mae creu gwerth ar gyfer cwsmeriaid yn hanfodol i bob busnes. Nid oes ots p’un a ydych yn gweithredu sefydliad gwasanaeth proffesiynol bychan (megis cwmni o gyfrifwyr) neu’n Brif Swyddog Gweithredol i fusnes cynhyrchu amlwladol, eich blaenoriaeth bwysicaf yw deall y farchnad y mae eich busnes ynddi, marchnata eich gwasanaethau ac adeiladu gallu’ch busnes i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau rhagorol sydd yn sicrhau teyrngarwch gan gwsmeriaid.

Hyd yn oed os nad elw sydd yn ysgogi’r sefydliad, megis gwasanaethau iechyd a gofal, llywodraeth leol neu genedlaethol, bydd creu gwerth yr un mor bwysig felly mae’n hanfodol y bydd arweinyddion a rheolwyr busnesau effeithlon a modern yn deall creu gwerth, cyflawni gwerth, a chynaliadwyedd darparu gwerth er mwyn bodloni disgwyliadau cwsmeriaid yn y dyfodol. Mae hyn wrth wraidd y Rhaglen MBA ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae cynllunio a gwireddu proses sydd yn “ychwanegu gwerth” ac yn bodloni ‘anghenion’ cwsmer, claf neu ddefnyddiwr  gwasanaeth yn bwysig dros ben ac yn sail weithredu i bob busnes sydd â pherfformiad uchel ac i bob sefydliad dibynadwy iawn. Mae llawer o fusnesau ledled y byd wedi defnyddio’u galluoedd i greu gwerth er mwyn goruchafu ar ddisgwyliadau cwsmeriaid a gosod telerau ar gyfer y gyfradd newid yn y marchnadoedd y maent yn gweithredu ynddynt (meddyliwch am Toyota, archfarchnadoedd Tesco, Apple, Zara, a MoonPig.com). Nid yn unig hynny, mae’r awydd i greu gwerth a chynllunio prosesau sydd yn mynd y tu hwnt i’r lefelau y mae eraill yn gallu eu darparu yn ddawn sydd yn caniatáu i’r busnesau hynny arallgyfeirio a chyrraedd marchnadoedd newydd bron yn hawdd. Ni fydd yn cymryd llawer o amser i’r rhan fwyaf o bobl restru’r sefydliadau “gwerth gwych” y maent wedi cael profiad ohonynt, ac yn yr un modd enwi’r rhai hynny sydd wedi methu  bodloni disgwyliadau.

Felly, mewn byd cystadleuol lle mae cwsmeriaid a defnyddwyr yn gallu cyflwyno adborth ar-lein yn syth ar ôl iddynt dderbyn eu nwyddau a’u gwasanaethau, mae dysgu am wyddor a sail busnes effeithlon ac effeithiol yn werthfawr.

Yr hyn sydd yn allweddol wrth greu gwerth, wrth ddysgu sut i wella ac wrth ddefnyddio’r wybodaeth hon er mwyn cynnal perfformiad uchel, yw cymryd cipolwg ar brosesau’r sefydliad a chanolbwyntio ar yr hyn y mae angen i’r busnes ei ddarparu, a sut mae’n gwneud hynny. Mae ansawdd, cyflymder, effeithlonrwydd y gwaith darparu, hyblygrwydd i deilwra gwasanaethau a chost cynnyrch/gwasanaeth i gyd yn brosesau allweddol sydd yn penderfynu ar werth i gwsmeriaid, dyna’r modd i fodloni cwsmeriaid, maent yn creu delwedd frand gadarnhaol, maent yn ysgogi teyrngarwch gan gwsmeriaid, maent yn creu elw (neu’n gwneud y gorau o’r gyllideb mewn sefydliad nad yw’n gwneud elw) ac mae’n rhaid eu cynllunio.

Mae cynllunio a rheoli tîm gweithredoedd a marchnata sydd yn cydweithio’n agos yn cysylltu anghenion cwsmeriaid â’r modd i fodloni cwsmeriaid yn effeithlon yn ddi-dor. Mae deall yr wyddor sydd yn gefndir i gynllunio prosesau perfformiad uchel ar gyfer sefydliadau yn sgil hanfodol ar gyfer pob rheolwr modern. Mae’n sgil a fydd yn gwireddu buddion ar gyfer y rheolwr, y sefydliad sydd yn ei gyflogi a’r cwsmer wrth geisio cynnal y lefel uchaf o wasanaeth i gwsmeriaid sydd yn dwyn elw. Hefyd mae awgrymiadau Darwinaidd i’r gwaith creu a chynnal gwerth (prif ddiben unrhyw sefydliad), a bydd y sefydliadau hynny sydd yn datblygu’r gallu hwn yn parhau ac yn ffynnu. Bydd y sefydliadau hynny nad ydynt yn meistroli’r gallu hwn, neu sydd ynghlwm â modelau hen ffasiwn, yn wynebu dyfodol llai sicr wrth wasanaethu cwsmeriaid presennol neu wrth chwilio am rai newydd.

Ysgrifennwyd y Blog gan: Yr Athro Nicholas Rich, darlithydd Creu Gwerth Cynaliadwy ar y rhaglen MBA 
Dyddiad cyhoeddi:11/05/2020