Gan yr Athro Katrina Pritchard a Dr Louisa Huxtable-Thomas, darlithwyr MBA

Pan fydd haneswyr yn edrych yn ôl ar flynyddoedd cynnar yr 21ain ganrif, byddant yn sylwi ar thema sy’n gyffredin i bob cenedl a phob ffordd o fyw; roedd yn gyfnod o herio grym a braint. Yn enwedig, heriwyd y rheiny a oedd cyn hynny’n sicr o’u grym fel arweinwyr,, nid oherwydd eu craffter ym myd busnes, ond oherwydd eu gwerthoedd.

Mae trafodaethau ynghylch arweinyddiaeth ac uniondeb yn mynd â’r holl sylw yn y newyddion, gydag arweinwyr gwleidyddol a chorfforaethol yn cael eu beirniadu’n enwedig. O’r perchennog-weithredwr unigol i’r sefydliad mwyaf yn y sector cyhoeddus neu’r cwmni amlwladol mwyaf, mae arweinwyr yn wynebu disgwyliadau newydd gan eu cwsmeriaid, eu rhanddeiliaid a’u rheoleiddwyr sy’n effeithio ar benderfyniadau ar draws pob agwedd ar eu gwaith. At hynny, mae natur integredig llawer o economïau a globaleiddio cynyddol yn dwyshau’r cymhlethdod ac yn pwysleisio’r angen i gydweithredu. Efallai bod arweinyddiaeth wedi troi’n gêm chwaraeon tîm o’r diwedd, ond un lle mae unigolion yn dal i gael eu neilltuo ar gyfer clod, neu eu ceryddu gan feirniadaeth.

Yma yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, ein nod yw llunio math newydd o MBA sy’n ceisio helpu pobl i arwain gyda’r uniondeb y mae ei angen arnynt er mwyn wynebu heriau byd-eang megis poblogaethau sy’n heneiddio, yr argyfwng yn yr hinsawdd, Diwydiant 4.0 ac adnoddau naturiol cyfyngedig. Ein nod oedd annog yr arweinwyr newydd hyn i ragweld y byd a fydd yn cymryd lle’r hen fyd, ac i ddisodli’r cwestiwn ‘Sut gallwn ni…?’ gan y cwestiwn ‘Sut dylen ni?’ Yn enwedig wrth inni geisio llunio’r modiwl ‘arwain gydag uniondeb’, ni allai neb fod wedi dychmygu’r newidiadau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol mae’r pandemig byd-eang wedi’u creu – ond gwnaethom sylweddoli ein bod wedi creu’r union fodiwl er mwyn helpu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr i’w ddefnyddio fel cyfle i wella bywydau pobl eraill a’u gwaith.

Wrth ddatblygu dealltwriaeth ein dysgwyr ynghylch y modd i ‘arwain gydag uniondeb’, rydym yn annog trafodaeth ac weithiau’n tynnu sylw at y diffygion, ynghylch damcaniaethau arweinyddiaeth a’i pherthnasedd i fusnesau modern. Yn hytrach nag oedi wrth ystyried y gorffennol nad yw’n berthnasol i’r normal newydd, rydym yn ystyried ystod eang o achosion cyfoes, o’r cyd-destun presennol ynghylch COVID-19 a thu hwnt, gan annog myfyrwyr i fyfyrio ar y ffyrdd y mae agweddau gwahanol ar arwain wedi cael eu damcaniaethu a’u profi, ac a ddylid rhoi’r rheiny ar waith heddiw.

Mae hyn yn caniatáu i’n dysgwyr werthfawrogi etifeddiaeth safbwyntiau megis y ‘dyn mawr’, ar yr un pryd â chwestiynu’r rhain yng nghyd-destun y gweithleoedd amrywiol presennol, er enghraifft. Yn y modd hwn rydym hefyd yn hybu ymchwiliad beirniadol i’r tybiau y mae’r cysyniadau hyn yn seiliedig arnynt. Er enghraifft, rydym yn annog myfyrwyr i holi i ba raddau mae ‘arweinwyr’ yn dal i fod yn ganolog i ‘arweinyddiaeth’. Trwy fod yn feirniadol fel hyn, bydd yn hybu ymchwilio i’r gwahaniaethau rhwng arweinwyr a phobl eraill, yn enwedig y rheiny sy’n ‘ddilynwyr’.

Trwy ymchwilio o’r fath, rydym yn ystyried sut mae camsyniadau academaidd yn cael eu sefydlu a’r ffyrdd gwahanol maent yn troi’n arfer. Byddwn yn ystyried sut mae’n debyg bod rhai syniadau am arweinyddiaeth yn cael eu mabwysiadu dros nos a pham bod eraill yn methu sefydlu’u hunain. Anogir myfyrwyr i weithio trwy sefyllfaoedd ynghylch arweinyddiaeth sy’n caniatáu ymchwiliad trwyadl i syniadau’r penderfyniad ‘cywir’ a’r ffordd ‘orau’ ymlaen a’r ardal lwyd sef ein realiti cymhleth yn y canol. Tra bod straeon o lwyddiant ym maes arweinyddiaeth wedi bod yn gefn i’n rhaglenni MBA ers talwm, bydd ein dull yn golygu craffu ar y rhain a galluogi myfyrwyr i arwain gydag uniondeb, mewn modd y maent yn gallu bod yn falch ohono, ble bynnag y bydd eu gyrfa yn mynd â nhw yn y dyfodol.

Ysgrifennwyd y Blog gan: Yr Athro Katrina Pritchard a Dr Louisa Huxtable-Thomas, darlithwyr MBA
Dyddiad cyhoeddi: 26/05/2020