Ynghlwm wrth ymchwil mae casglu gwybodaeth. Mae Moeseg Ymchwil yn ymdrin â’r ffordd (h.y. y dulliau) a ddefnyddir i gasglu a dadansoddi data ac yna adrodd amdano a’i gyhoeddi. Os na fydd yr wybodaeth i’w chasglu yn y parth cyhoeddus, neu os bydd ei chasglu’n golygu defnyddio cyfranogwyr dynol, meinwe ddynol neu anifeiliaid, yna mae’n hynod o debygol y byddai angen rhyw fath o adolygiad moesegol er mwyn cymeradwyo’r ymchwil. Dylai cydsyniad cytbwys fod wrth galon unrhyw ymchwil foesegol sy’n ymdrin â chyfranogwyr dynol a dylai cynnal urddas, hawliau, diogelwch a lles cyfranogwyr yr ymchwil fod yn brif ystyriaeth unrhyw astudiaeth ymchwil. Yr ymchwilwyr eu hunain, yn y lle cyntaf, sy’n gyfrifol am ymddygiad moesegol da. Felly, mater o fod yn ymwybodol o’r risgiau, yn hytrach na bod yn gyndyn o gymryd risgiau, yw ymchwil foesegol.

Ceir tri phrif fath o lwybrau cymeradwyo moesegol gan ddibynnu ar y math o ymchwil sy’n cael ei chynnal: Pwyllgorau Moeseg y Colegau, cymeradwyaeth y GIG/HRA ar gyfer gwaith sy’n ymdrin â’r GIG a’r Bwrdd Lles Anifeiliaid ac Adolygu Moesegol (AWERB) yn achos ymchwil sy’n cynnwys anifeiliaid.

Cais ar gyfer Moeseg Ymchwil