Yn sicrhau ein bod yn bodloni'r safonau uchaf

Mae gan Ysgol y Gyfraith Bwyllgor Moeseg a Llywodraethu Ymchwil (CREC) er mwyn sicrhau y caiff ei hymchwil ei chynllunio a'i chynnal gan fodloni egwyddorion moesegol allweddol a'i bod yn destun arolygiaeth ffurfiol. Mae'r grŵp yn ceisio:

  • Bod yn berchen ar Bolisi a Phrosesau Moeseg a Llywodraethu Ymchwil y Coleg a’u cynnal
  • Ystyried ceisiadau am gymeradwyaeth foesegol i brosiectau ymchwil gan staff a myfyrwyr ôl-raddedig
  • Monitro cymeradwyaeth foesegol i brosiectau myfyrwyr israddedig
  • Rhoi cyngor i ymchwilwyr ar gynllunio ac adolygu ymchwil i sicrhau uniondeb, ansawdd a thryloywder
  • Rhoi cyngor i ymchwilwyr ar ddisgwyliadau a chynlluniau rheoli data
  • Rhoi adroddiadau a diweddariadau rheolaidd i Is-bwyllgor Moeseg a Llywodraethu Ymchwil y Brifysgol; a
  • Rhoi crynodeb blynyddol o weithgarwch i Bennaeth y Coleg a Phwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol.
  • Mae'r CREC yn cwrdd unwaith y tymor ym mis Ionawr, Mai a Medi, ac yn ôl yr angen ar adegau eraill er mwyn ystyried ceisiadau 'risg uchel'.

Aelodau'r Pwyllgor yw:

  • Richard Owen (Cadeirydd)
  • Sue Roberts (Dirprwy Gadeirydd)
  • Simon Baughen
  • Arwel Davies
  • Caroline Jones
  • Joe Whittaker
  • Penny Lauder (Ysgrifennydd)

Y BROSES CYMERADWYO MOESEG YMCHWIL

Mae angen cymeradwyo ymchwil a gynhelir gan aelodau staff, neu unrhyw fyfyrwyr ôl-raddedig neu israddedig y maent yn gyfrifol amdanynt, os yw'n cynnwys pobl neu setiau data pobl. Dan yr amgylchiadau hyn, mae'n ofynnol i chi geisio cymeradwyaeth foesegol gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y Coleg cyn dechrau'r ymchwil. Sylwer, fodd bynnag, NAD oes angen cymeradwyaeth ar gyfer prosiect a ariennir cyn gwneud y cais am ariannu, oni bai ei fod yn ofyniad penodol gan y corff ariannu.

Ar gyfer prosiectau ymchwil staff a myfyrwyr ôl-raddedig:  dechreuwch y broses drwy ystyried a fydd eich ymchwil yn peri unrhyw faterion a nodir yn y Ffurflen Cymeradwyaeth Foesegol Lai Beichus ai peidio. Os na, anfonwch y ffurflen honno i’r Pwyllgor. Os yw eich ymchwil yn codi unrhyw un o'r materion hyn, cwblhewch y Ffurflen Cymeradwyaeth Foesegol Lawn.

Os ydych yn gyfrifol am fyfyrwyr israddedig sy'n cynnal ymchwil y mae angen cymeradwyaeth foesegol ar ei gyfer, bydd angen i'r Is-bwyllgor Israddedig ei hystyried. Cysylltwch â Victoria Jenkins yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth.

Bydd ceisiadau am gymeradwyaeth foesegol lawn yn destun proses asesu risg. Bydd y Pwyllgor llawn yn cyfarfod i ystyried ceisiadau 'risg uchel'.  Cofiwch hyn wrth ystyried amserlen eich ymchwil.

Mae'r holl ffurflenni ar gael o'r wefan, a dylid eu dychwelyd at clcresearchethics@abertawe.ac.uk, gan gopïo Cadeirydd y Pwyllgor w.r.owen@abertawe.ac.uk a'r Ysgrifennydd Penny Lauder p.j.lauder@swansea.ac.uk

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y cafodd eich cais ei drin gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y Coleg, dylech ddweud wrth Gadeirydd y Pwyllgor yn y lle cyntaf, ond os byddwch yn anfodlon o hyd ar yr ymagwedd, cewch apelio i Bwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol. Am ragor o fanylion, gwiriwch Bolisi Uniondeb Ymchwil y Brifysgol sydd ar gael yma

ARWEINIAD AR GWBLHAU CEISIADAU MOESEG YMCHWIL

Mae enghreifftiau o geisiadau llwyddiannus gan staff, myfyrwyr PhD ac Israddedig ar gael drwy wefan Staff y Gyfraith a Throseddeg Blackboard.

Gweithdrefnau llywodraethu ymchwil y Brifysgol a materion sy'n ymwneud â chydsyniad a rheoli data.

Am amlinelliad o weithdrefnau llywodraethu ymchwil y Brifysgol, gweler Uniondeb Ymchwil: Fframwaith Polisi ar Foeseg a Llywodraethu Ymchwil.

Mae gwybodaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) am foeseg ymchwil yn ddefnyddiol hefyd, yn enwedig y cwestiynau cyffredin, sydd ar gael yma. Adnodd defnyddiol arall yw’r Cyfeirlyfr Moeseg Ymchwil.

Ymchwil moesegol gyda phlant

Sylwer y bydd angen tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar unrhyw ymchwilydd sy'n rhan o brosiect sy'n ymwneud â phlant. Sylwer bod Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bawb sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd neu'n dod i gysylltiad â nhw:

  • Deall ei rôl a'i gyfrifoldebau i amddiffyn a hybu llesiant plant;
  • Bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau a phrotocolau ei sefydliad o ran amddiffyn a hybu lles plant a'u dilyn, a gwybod â phwy i gysylltu ag ef yn y sefydliad i fynegi pryderon am lesiant plentyn
  • Bod yn wyliadwrus o arwyddion o gam-drin a diffyg gofal.

O ganlyniad, rhaid i chi fod yn gyfarwydd â Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru Gyfan a deall yr egwyddorion a’r ymarfer sydd wedi’u cynnwys yn Diogelu Plant: Cydweithio o dan Ddeddf Plant 2004.

Am arweiniad pellach ar ymchwil moesegol gyda phlant, cliciwch yma.