Pwyllgor llywodraethu a moeseg ymchwil yr ysgol reolaeth

Diben
Cynnal adolygiadau moesegol o waith ymchwil posibl sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol, data sylfaenol a data eilaidd. 

Ceisiadau
Rhaid i gais am gymeradwyaeth gan Bwyllgor Llywodraethu a Moeseg Ymchwil yr Ysgol Reolaeth gael ei gwblhau gan staff a myfyrwyr yr Ysgol Reolaeth sy'n gwneud gwaith ymchwil sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol, data sylfaenol neu ddata eilaidd. Os yw'r ymchwil yn cynnwys data, cleifion, gweithwyr proffesiynol neu safleoedd y GIG, yna dylid gwneud cais i Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG yn ogystal â Phwyllgor yr Ysgol Reolaeth. Os yw'r astudiaeth yn cynnwys cleifion y GIG, yna ni all y gwaith ymchwil fynd yn ei flaen nes ar ôl cael ei gymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG.

Rhaid i brosiectau ymchwil a ariennir gael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ysgol Reolaeth os yw'r Prif Ymchwilydd o'r Ysgol Reolaeth.

Nid oes angen cymeradwyaeth os yw'r canlynol yn wir:

  • Mae'r aelod o staff yn gweithredu fel Cyd-Ymchwilydd mewn prosiect ymchwil a ariennir;
  • Adolygiad o lyfryddiaeth yw'r gwaith ymchwil, neu bapur cysyniadol nad oes angen casglu data ar ei gyfer;
  • Mae'r gwaith ymchwil eisoes wedi cael ei gyflwyno cyn i'r polisi hwn ddod i rym.

Ar ôl ystyried cais, bydd y pwyllgor naill ai'n: (a) ei gymeradwyo, (b) yn penderfynu bod angen ei adolygu a'i ailgyflwyno, (c) yn peidio â'i gymeradwyo, (ch) yn ei gwneud yn ofynnol ei gyflwyno i Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG cyn y gellir ei gymeradwyo.

Cyflwyno
Dylai eich cais fod o fewn un ddogfen a chael ei anfon at Amy Jones.

CANLLAWIAU A GWNEUD CAIS

HYFFORDDIANT UNIONDEB YMCHWIL

Gwybodaeth i staff a myfyrwyr

I gael arweiniad a gwneud defnydd o ffurflenni moesol, cysylltwch â’n tîm ymchwil.