Datganiad ar asesu ymchwil mewn ffordd deg a defnyddio mydryddiaeth

Mae Prifysgol Abertawe wedi cadarnhau ei hymrwymiad i asesu ymchwil mewn ffordd deg drwy arwyddo San Francisco Declaration on Research Assessment  (DORA) a mabwysiadu’r egwyddorion a amlinellir yn http://www.leidenmanifesto.org/.

Trwy fabwysiadu’r egwyddorion hyn, fel sefydliad, rydyn ni’n ymrwymo i:

Fod yn eglur o ran y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer gwneud penderfyniadau recriwtio, daliadaeth a dilyniant gyrfa, gan bwysleisio’n glir bod cynnwys gwyddonol papur yn llawer pwysicach na mydryddiaeth cyhoeddi na’r cyfnodolyn y cyhoeddwyd ynddo, yn enwedig yn achos ymchwilwyr cyfnod cynnar.

At ddibenion asesu ymchwil, byddwn ni’n ystyried gwerth ac effaith pob allbwn ymchwil (gan gynnwys setiau data a meddalwedd) yn ogystal â chyhoeddiadau ymchwil, ac ystyried ystod eang o fesurau effaith gan gynnwys dangosyddion ansoddol ar gyfer effaith ymchwil, megis dylanwad ar bolisi ac ymarfer.

Cefnogir y gwaith o weithredu’r egwyddorion hyn yn Abertawe gan Ellie Downes (e.c.downes@abertawe.ac.uk) yn Nhîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell. Rydym yn cydnabod bod mabwysiadu’r egwyddorion hyn yn ddatganiad o fwriad a bydd proses raddol o alinio’r polisi ac ymgorffori’r ymarfer ar draws ein gwasanaethau academaidd a phroffesiynol yn Abertawe. Wrth i faterion gael eu hamlygu ac wrth i feysydd sy’n groes i’r egwyddorion hyn ddod i’r amlwg, byddwn ni’n adolygu’r polisïau yn sgil yr egwyddorion gan sicrhau bod Abertawe yn meddu ar ymagwedd gadarn, dryloyw a theg at ddefnyddio mydryddiaeth at ddibenion gwerthuso ymchwil ac yn cyfathrebu newidiadau a datblygiadau o’r fath yn rheolaidd.

Mae Tîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y brifysgol i ddatblygu llwybr er mwyn i ymchwilwyr ac aelodau staff y gwasanaethau proffesiynol adrodd am bolisïau, gweithdrefnau ac ymddygiadau y teimlwyd nad oeddent yn cyd-fynd ag egwyddorion y DORA a maniffesto Leiden. Os oes gennych chi bryderon, cwestiynau neu geisiadau am hyfforddiant, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu blaenoriaethu’r ceisiadau hyn.