Bwriad Llywodraethu Ymchwil yw sicrhau’r safonau uchaf yn ansawdd ymchwil sy’n cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol a Fframwaith Polisi’r DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2017. Mae’r holl ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn ddarostyngedig i Fframwaith Polisi’r DU.
Mae’r fframwaith polisi yn berthnasol i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n ymwneud â chleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaethau neu’u perthnasau neu’u gofalwyr ac mae’n cwmpasu:
- ansawdd gwyddonol
- safonau moeseg,
- cymeradwyaethau a chaniatâd yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA)
- gallu a galluogrwydd Ymchwil a Datblygu’r GIG
- yswiriant ac indemniad, a
- yr holl agweddau cysylltiedig ar reoli sydd ynghlwm wrth sefydlu, cynnal, adrodd am ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol yn ogystal â’u datblygu
Felly, y rhain yw seiliau’r egwyddorion sy’n diogelu ac yn hyrwyddo buddiannau cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
NAWDD
Y noddwr yw’r unigolyn, y sefydliad neu’r bartneriaeth sy’n cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod trefniadau cymesur ac effeithiol yn eu lle er mwyn sefydlu, cynnal ac adrodd am brosiect ymchwil. Yn unol â Fframwaith Polisi’r DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dylai’r holl ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol feddu ar noddwr.
- Fel arfer disgwylir mai’r noddwr fydd cyflogwr y prif ymchwilydd yn achos ymchwil anfasnachol neu’r cyllidwr yn achos ymchwil fasnachol.
- Mae gan noddwyr treialon cynnyrch meddyginiaethol ymchwiliadol (CTMIP) ddyletswyddau cyfreithiol penodol.
- Mae’r Brifysgol yn derbyn rôl noddwr yr holl ymchwil addysgol y bydd ei myfyrwyr yn ei chynnal, oni fydd y myfyriwr yn cael ei gyflogi gan ddarparwr iechyd neu ofal cymdeithasol y mae’n well ganddo ymgymryd â’r rôl hon.
- Dylai noddwyr ymchwil addysgol sicrhau y gall goruchwylwyr gynnal y gweithgareddau ynghlwm wrth gyflawni’r rôl hon, a’u bod yn gwneud hynny.
- Os na all y goruchwyliwr academaidd fodloni cyfrifoldebau trosolwg y noddwr yn ddigonol oherwydd lleoliad neu arbenigedd, dylai’r noddwr gytuno ar drefniadau cyd-oruchwylio gydag ymarferwr gofal lleol.
GOFYN AM NAWDD PRIFYSGOL ABERTAWE
Os bydd eich prosiect ymchwil yn ymdrin ag unrhyw un o’r categorïau nawdd uchod, bydd angen nawdd ar gyfer y prosiect a bydd yn rhaid ichi lenwi ffurflen gais nawdd Prifysgol Cymru ac anfon y dogfennau ategol i flwch negeseuon e-bost llywodraethu ymchwil. Bydd hyn yn cychwyn proses adolygu gan y tîm llywodraethu ymchwil a dylech chi ganiatáu 10 niwrnod ar gyfer adolygiad llawn.
Hwyrach bydd angen i’ch prosiect fynd gerbron:
- Pwyllgor Moeseg (REC) y GIG drwy system ar-lein IRAS
- Caniatâd a chymeradwyaethau’r HRA
- Proses cadarnhau gallu a galluogrwydd ymddiriedolaethau’r GIG
Pryd galla i ddechrau?
Cyn y gall unrhyw ymchwil ddechrau, mae’n rhaid i bob caniatâd o ran moeseg ac achosion eraill o ganiatâd gael eu rhoi. Yna, bydd yr Ymchwilydd yn derbyn llythyr cychwyn gan y tîm llywodraethu ymchwil sy’n cadarnhau nawdd y Brifysgol.
Dysgwch ragor
Mae gan yr HRA wefan sy’n rhoi gwybodaeth am sut i gynllunio a pharatoi ar gyfer cymeradwyaeth ymchwil a’r gweithgareddau y bydd yn rhaid ichi’u cwblhau. Mae’n pwysleisio’r arferion gorau, y fframweithiau cyfreithiol ac adnoddau eraill a bydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf un ichi o ran y newidiadau a’r wybodaeth ddiweddaraf o ran rheoliadau.