Diffiniad
Mae 'dyfais feddygol' yn golygu offeryn, teclyn, dyfais, meddalwedd, mewnblaniad, adweithydd neu eitem arall y mae'r gweithgynhyrchwr yn bwriadu iddi gael ei defnyddio ar ei phen ei hun, neu ar y cyd ag eitem arall, ar gyfer bodau dynol.
Ceir diffiniad llawn yn erthygl 2(1) yr MDR (Rheoliad ar Ddyfeisiau Meddygol).
Enghreifftiau o Ddyfeisiau Meddygol:
- offerynnau deintyddol a llawfeddygol
- rhwymynnau a sblintiau
- cadeiriau triniaeth a gwelyau ysbyty
Diffiniad
Mae 'dyfais feddygol ddiagnostig in vitro' yn golygu dyfais feddygol sy'n adweithydd, yn gynnyrch adweithiol, yn galibradwr, yn ddeunydd rheoli, yn becyn, yn offeryn, yn declyn, yn eitem o gyfarpar, yn feddalwedd neu'n system, boed i'w defnyddio ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag eitem arall, y mae'r gweithgynhyrchwr yn bwriadu iddi gael ei defnyddio in vitro i archwilio sbesimenau, gan gynnwys gwaed a meinweoedd a gasglwyd gan gorff dynol.
Ceir diffiniad llawn yn Erthygl 2(2) yr IVDRn (Rheoliad ar Ddiagnosteg In Vitro)
Enghreifftiau o Ddyfeisiau Diagnostig Meddygol In Vitro:
- profion beichiogrwydd
- monitorau glwcos y gwaed
Arweiniad yr MHRA
Mae'r HRA yn darparu modiwl e-ddysgu am ddyfeisiau meddygol sy'n esbonio'r rheoliadau a'r ystyriaethau ar gyfer ymchwiliadau clinigol neu astudiaethau ymchwil eraill mewn perthynas â dyfeisiau meddygol ledled y DU. Mae'r modiwl ar gael yma.